Mae’r rhaglen maes dysgu hon wedi’i chynllunio i ddarparu i unigolion y sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn llwyddiannus mewn swyddi cyfredol ac ar gyfer dilyniant i gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau perthynol. Mae'r rhain yn cynnwys: Dylunio, Peirianneg Cynnal a Chadw, Rheoli ac Offeryniaeth, Gwerthiannau Technegol, Addysgu, Rheoli Proses a Rheoli PLC.
Mae’r rhaglen yn dilyn Diploma Estynedig Technegol EAL mewn Technoleg Peirianneg Fecanyddol gyda 149 credyd.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod am waith ac i symud ymlaen i’r Brentisiaeth Fodern, neu astudio pellach ar lefel tri ar Ddiploma Estynedig Technegol llawn amser
Datblygu Sgiliau Ymarferol
Lleoliad gwaith gyda chyflogwr
Ymweliadau ymwybyddiaeth ddiwydiannol
Cynnwys y Rhaglen
Yr unedau blwyddyn un yw Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs) ac Electroneg Ddigidol.
Ym mlwyddyn dau cwmpesir yr unedau canlynol: Mathemateg Bellach, Egwyddorion Trydanol ac Electronig Pellach, Peirianneg Systemau Analog, Electroneg Analog, Pŵer Trydanol, Prosiect, Gwyddor Beirianegol Bellach, Offeryniaeth Beirianegol a Chyfathrebu Peirianegol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus symud ymlaen i wneud cyrsiau HND neu radd mewn pynciau perthnasol. Mae swyddi sy'n uniongyrchol berthnasol i beirianneg drydanol ac electronig yn cynnwys ymchwil cynllunio a datblygu, rheolaeth ac offeryniaeth, gwerthiannau technegol, addysgu, peirianneg cynnal, rheoli proses a rheoli Plc.
Asesu'r Rhaglen
Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr 16-19 oed gael o leiaf pedwar TGAU gradd A* - C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. Croesewir mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.