Peirianneg Gyffredinol Rhan 3
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
Blwyddyn (Llawn Amser 3 diwrnod yr wythnos)
-
Campws Jobs Well
Peirianneg yw'r grefft o droi dychymyg yn realiti, lle mae arloesedd a chreadigrwydd yn cwrdd ag egwyddorion gwyddonol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys NVQ 64 credyd Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) ac unedau sgiliau.
Mae wedi’i gynllunio i fodloni ymgeiswyr sy’n dymuno symud ymlaen o Beirianneg Gyffredinol (lefel 2) ond sydd ddim yn hollol barod ar gyfer rhaglen lefel tri, ac sydd am ennill cymwyseddau peirianneg lefel dau mewn amgylchedd dan reolaeth.
Mae yna gyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a mathemateg ar gael gyda’r cwrs hwn, gofynion hanfodol ar gyfer dilyniant i gyrsiau peirianneg lefel tri.
Mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gallu cyflawni swydd benodol neu sgil.
Mae’n darparu sylfaen dda gyda hyblygrwydd i ddiwallu arferion peirianegol cyfredol a rhai’r dyfodol hefyd.
Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ymgeiswyr sydd am ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd gwarchodol a rheoledig.
Mae’r llwybr dilyniant i brentisiaeth sylfaen a / neu lefel 3.
Hefyd anogir ymgeiswyr i ailsefyll TGAU mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ble y bo’n briodol.
Mae’n cynnwys:
- NVQ 64 credyd Perfformio Gweithrediadau Peirianneg EAL
- Unedau Sgiliau Hanfodol fel y bo’n berthnasol
- Arholiadau ailsefyll TGAU mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth ble y bo’n briodol.
Mae’r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud swydd benodol neu sgil hyd at safon lefel 2 a gall eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sgiliau peirianneg eang ac fe fydd yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianegol penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).
Asesiad parhaus o waith cwrs ymarferol a datblygiad portffolio.
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Y gofyniad mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw tystysgrif lefel dau ac o leiaf dau TGAU gradd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf o leiaf ar radd D, ac mae derbyniad i’r cwrs hefyd yn amodol ar gyfweliad sy’n cynnwys prawf diagnostig.
Mae rhaid i ymgeiswyr ddangos y sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, ynghyd ag awydd brwd i ennill cymhwyster peirianneg.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.