Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau weldio a ffabrigo penodol ac mae'n cydnabod yr hyn y mae person yn medru ei wneud yn y gwaith ar y lefel hon. Mae'n cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gwblhau'r swydd, y gallu i drefnu gwaith a sylwi ar broblemau a'u hatal.

Mae'r rhaglen maes dysgu lefel 2 hon mewn ffabrigo a weldio yn dilyn Diploma City and Guilds lefel 2, unedau lefel 2 yn yr NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg EAL a'r unedau Sgiliau Hanfodol Cymru lle bo hynny'n berthnasol.

Cipolwg

  Llawn Amser

  1 i 2 flynedd yn dibynnu ar ddull astudio 

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae hwn yn gwrs galwedigaethol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ar gyfer ceisiadau am brentisiaethau

Asesiad yn seiliedig ar bortffolio tystiolaeth a adeiledir drwy waith ymarferol gydag asesiadau ysgrifenedig/ar-lein

Mae'r cwrs yn cynnig dilyniant o lefel un neu gymhwyster cyfwerth

Ar gwblhau'n llwyddiannus, mae'n darparu mynediad i City and Guilds lefel tri  

Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant

Cynyddu'r siawns o gael gwaith

Ateb gofynion cyfrannol y fframwaith prentisiaeth 

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r unedau enghreifftiol a gwmpesir yn cynnwys: Gweithio ym maes Peirianneg; Egwyddorion Technoleg Peirianneg; Egwyddorion Technoleg Ffabrigo a Weldio; Weldio drwy MIG; Proses Ffabrigo; Plât Trwchus, Bar ac Adrannau.

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddai cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr wneud cais am brentisiaeth peirianneg a/neu symud ymlaen i raglen Ffabrigo a Weldio lefel tri City and Guilds.

Asesu'r Rhaglen

Asesiad parhaus o waith cwrs ymarferol a datblygu portffolio, a ategir gan brofion aml-ddewis ar-lein, papurau cwestiwn atebion byrion ac aseiniadau.

Gofynion y Rhaglen

O leiaf 3 TGAU A* - C, yn cynnwys Mathemateg a Chymraeg Mamiaith/Saesneg gradd C neu uwch.

Gall ymgeiswyr fod yn meddu ar dystysgrif weldio lefel un a bod â diddordeb brwd mewn weldio neu ffabrigo.  Mae cael eich derbyn ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad byr.

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.