Mae'r rhaglen yn datblygu sgiliau weldio a ffabrigo ymarferol yn ogystal â gwybodaeth theori yn ymdrin â: weldio arc metel â llaw, weldio arc twngsten ag amddiffyniad nwy, weldio arc metel ag amddiffyniad nwy, weldio ocsi-asetylen, Ffabrigo dur, Torri ocsi-asetylen a Lluniadu Peirianegol.
Mae'r rhaglen ddysgu Ffabrigo a Weldio lefel 3 hon yn dilyn Diploma lefel 3 City and Guilds 60 credyd a'r unedau Sgiliau Hanfodol Cymru lle bo hynny'n berthnasol.
Cipolwg
Llawn Amser
1 i 2 flynedd yn dibynnu ar ddull astudio
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae'n bodloni gofynion Tystysgrif Dechnegol y cynllun Prentisiaeth Fodern
Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
Mae'n darparu cymhwysedd o allu technegol ac ymarferol
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar yr unedau rhagarweiniol a gyflwynwyd ar lefel y cwrs Ffabrigo a Weldio L2, i ymestyn gwybodaeth bresennol a chyflwyno cysyniadau a meysydd pwnce newydd gan gynnwys: Egwyddorion ffabrigo a weldio; Egwyddorion peirianegol, ac arferion a datblygu templed a phatrwm.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae'r rhaglen hon yn cyfrannu at y fframwaith Prentisiaeth Fodern, a gydnabyddir gan gyflogwyr.
Asesu'r Rhaglen
Asesir ar sail cwblhau ymarferion cymhwysedd ymarferol, aseiniadau seiliedig ar theori ac arholiadau gosod allanol.
Gofynion y Rhaglen
Fel rheol byddai'r cwrs hwn yn dilyn ymlaen o gwblhau NVQ lefel 2 a'r cwrs City and Guilds 2850 lefel 2 yn llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.