Mae'r rhaglen ddysgu lefel 2 hon yn cynnwys Tystysgrif City & Guilds L2 a Bagloriaeth Cymru L2. Cynlluniwyd y rhaglen hon i fodloni ymgeiswyr sydd eisiau symud ymlaen, ond nad ydynt yn barod am raglen lefel 3 ac sydd yn dymuno ennill cymwyseddau peirianneg lefel 2 mewn amgylchedd cysgodol, rheoledig.
Mae cyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg ar gael gyda'r cwrs hwn, sydd yn ofynion hanfodol ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau peirianneg lefel 3.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae'r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gallu perfformio gorchwyl neu sgil benodol. Mae'n darparu sail dda gyda hyblygrwydd i fodloni arferion peirianneg presennol a rhai'r dyfodol
Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ymgeiswyr sydd yn dymuno ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd cysgodol a rheoledig
Mae'r llwybr dilyniant yn arwain at brentisiaeth sylfaen a / neu BTEC lefel 3. Caiff ymgeiswyr eu hannog hefyd i ailsefyll TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth lle bo'n berthnasol
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn cynnwys ymdriniaeth o Dystysgrif L2 City & Guilds, Bagloriaeth Cymru L2 ac ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg fel sy'n berthnasol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae'r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud gorchwyl neu sgil benodol i safon lefel 2 a gall hyn eich helpu i symud ymlaen i fyd gwaith neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sail eang o sgiliau peirianneg ac yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianneg penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).
Asesu'r Rhaglen
Asesu gwaith cwrs ymarferol yn barhaus, datblygu portffolio, aseiniadau a phrofion dosbarth.
Gofynion y Rhaglen
Y gofynion mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw o leiaf un TGAU gradd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Mamiaith/Saesneg gradd D o leiaf, ac mae derbyn yn amodol ar gyfweliad gan gynnwys profion diagnostig.
Rhaid i ymgeiswyr arddangos y sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gyda dymuniad brwd i gyflawni cymhwyster peirianneg.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.