Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei (g)allu. Dyfarniad dwy flynedd o hyd yw hwn sydd yn addas i fyfyrwyr sydd am astudio yn llawn amser ac sy'n chwilio am yrfa yn y proffesiwn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd.

Cipolwg

  Llawn neu Rhan Amser

  2 flynedd yn Llawn Amser neu 3 blynedd yn Rhan-amser

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae cynnwys, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:

galluogi dysgwyr i arddangos lefel briodol o sgiliau datrys problemau fel y sail ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, fel eu bod yn gallu gweithio mewn tîm, gan felly gyfrannu at eu hamgylchedd gwaith.

caniatáu dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddadansoddi peirianneg ac egwyddorion gwyddonol.

arddangos ymwybyddiaeth o reolaeth ansawdd, systemau iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd.

caniatáu dysgwyr i brosesu a dadansoddi'r wybodaeth a gafwyd o waith labordy a gwaith prosiect er mwyn datrys problemau peirianneg.

defnyddio sgiliau mewn technoleg gwybodaeth fel y caiff ei chymhwyso i beirianneg ac arddangos cymhwysedd mewn sgiliau llafar ac ysgrifenedig, sydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm

annog dysgwyr i nodi eu hanghenion dysgu eu hunain i'w galluogi i symud ymlaen a gwella eu sail addysgol ar gyfer datblygiad proffesiynol

datblygu agwedd broffesiynol yn y myfyrwyr tuag at eu cyfrifoldebau fel peirianwyr i'r gymdeithas.

Cynnwys y Rhaglen

Mae enghreifftiau o unedau'r cwrs yn cynnwys: Dylunio a Gweithgynhyrchu, Technoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol, Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Beirianegol 1, Gwyddor Fecanyddol 1, Thermo hylifau 1, Deunyddiau, Prosiect, Busnes, Diogelwch a Chyflogadwyedd, Thermo hylifau 2, Gwyddor Fecanyddol 2, Mathemateg Beirianegol 2. Offeryniaeth a Rheolaeth, Cynllunio Peirianegol a Thechnoleg Awtomataidd.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau'r HND yn llwyddiannus i safon foddhaol yn golygu bod myfyrwyr yn gymwys i gael eu derbyn i gyrsiau gradd mewn pynciau cysylltiedig o fewn Grwp PCYDD. Mae gyrfaoedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r ddisgyblaeth hon yn cynnwys Peiriannydd Datblygu Mecanyddol; Peiriannydd Dylunio Mecanyddol; Peiriannydd Cynhyrchu a Gwerthiannau Technegol. Caiff Peirianwyr Mecanyddol / Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a chan sefydliadau ymchwil.

Asesu'r Rhaglen

Asesir trwy gyfrwng aseiniadau ac arholiadau ar ddiwedd modiwl. Caiff y myfyrwyr eu hasesu hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.

Gofynion y Rhaglen

Yn ogystal â phum pwnc TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth, bydd y meini prawf lleiafswm canlynol yn berthnasol:

TAG Lefel UG/Safon Uwch, VCE Lefel UG dyfarniad sengl neu ddwbl/AVCE dyfarniad sengl neu ddwbl: O leiaf dau Safon Uwch neu gyfwerth.  Y pynciau Safon Uwch neu gyfwerth derbyniol yw Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth rhifog megis Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg neu Beirianneg.

Neu

Dystysgrif/Diploma/Diploma Estynedig Cenedlaethol, fel rheol mewn Peirianneg Fecanyddol. Graddau PP/PPP fel sy'n berthnasol, yn cynnwys modiwl Mathemateg a modiwl dadansoddol ychwanegol megis Mecaneg neu Wyddor Amgylcheddol.

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg.

Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.