Mae’r rhaglen maes dysgu lefel 3 hon wedi’i chynllunio i ddarparu i unigolion y sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn llwyddiannus mewn swyddi cyfredol ac ar gyfer dilyniant i gyflogaeth yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau gweithgynhyrchu. Mae’r rhain yn cynnwys: dylunio, cynllunio, drafftio, peiriannu, prosesu lled-ddargludyddion a pheirianneg gynhyrchu sy’n cwmpasu gofynion mecanyddol ac aml-sgiliau’r diwydiant peirianneg gweithgynhyrchu.
Mae’r rhaglen yn dilyn Diploma Estynedig Technegol EAL mewn Technoleg Peirianneg Fecanyddol gyda 149 credyd.
Cipolwg
Llawn Amser
2 flynedd
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae’n cadarnhau perthnasedd peirianneg i broblemau’r byd go iawn.
Bydd y Diploma Estynedig Technegol yn canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth yn ymarferol a datblygu sgiliau’n ymwneud â gwaith sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant peirianneg gweithgynhyrchu. Bydd yn darparu craidd cyffredin o astudiaethau gydag unedau arbenigol perthynol sy’n arwain at gyflogaeth, dilyniant proffesiynol neu academaidd i addysg uwch.
Mae rhaglen y cymhwyster hwn yn rhoi mynediad i unedau mwy arbenigol ac felly mae’n ehangu ac yn dyfnhau profiad y dysgwyr wrth baratoi ar gyfer byd gwaith.
Mae’n datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol a dilyniant o fewn y diwydiant peirianneg eang a sectorau cysylltiedig. Maent hefyd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles, yr amgylchedd a chynaladwyedd gan ei fod yn dylanwadu ar y sector peirianneg gweithgynhyrchu ac yn effeithio arno.
Mae’n darparu’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth yrfaol benodol, neu i ddewis rhaglen integredig o astudiaeth bellach.
Cynnwys y Rhaglen
Mae unedau’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol, Mathemateg Beirianegol, Proses Ddylunio Beirianegol a Chyfathrebu mewn Peirianneg.
Ym mlwyddyn dau, cwmpesir yr unedau canlynol: Mathemateg Beirianegol Bellach, Gwyddor Beirianegol Bellach, Technegau CAD, Cynnal a Chadw Systemau Mecanyddol, CNC Uwch, PLCs, Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Technegau Gweithgynhyrchu Uwch a Phrosiect.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus symud ymlaen i wneud cyrsiau HND neu radd mewn pynciau perthnasol. Mae'r swyddi sy'n uniongyrchol berthnasol i beirianneg gweithgynhyrchu yn cynnwys ymchwil cynllunio a datblygu, gweithgynhyrchu, peirianneg cynhyrchu, cynllunio cynhyrchu a sicrhau ansawdd. Mae gyrfaoedd eraill ble gall y sgiliau a ddatblygir trwy beirianneg gweithgynhyrchu fod yn ddefnyddiol yn cynnwys gwerthiant technegol a marchnata, addysgu neu waith patent.
Asesu'r Rhaglen
Asesir pob uned yn fewnol trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr 16-19 oed gael o leiaf pedwar TGAU graddau A* - C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb y cymwysterau ffurfiol hyn yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell)
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.