Mae’r dosbarthiadau nos mewn weldio yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau weldio. Maen nhw wedi'u hanelu at lefel 1 (dechreuwyr) a lefel 2 (datblygu sgiliau) naill ai mewn weldio arc neu MIG neu TIG. Maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer hobïwyr a’r rheiny sydd yn y diwydiant, i ddatblygu sgiliau weldio ymhellach ac ennill tystysgrif City and Guilds.
Fel arfer mae ymgeiswyr yn dilyn un broses ar un lefel am y flwyddyn, gan gwblhau nifer o asesiadau ymarferol a chyfres o gwestiynau gwybodaeth ar lafar.
Cipolwg
Rhan Amser
1 flwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Dewiswch weldio arc, MIG neu TIG a chewch amser i ddatblygu eich sgiliau mewn gweithdai llawn cyfarpar gyda chyngor ac arweiniad gan hyfforddwr â chymwysterau da. Unwaith y cyrhaeddir y safon ar gyfer asesu, ewch ati i gwblhau’r darnau prawf i'w hasesu, gan grynhoi’r rhain er mwyn cwblhau'r dyfarniad llawn.
Cynnwys y Rhaglen
Mae ymgeiswyr yn dilyn cyfres o gymwysterau 3268 City and Guilds sy’n rhoi meysydd bach i'w datblygu sy'n ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau weldio.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai dilyniant olygu symud i fyny'r lefelau neu gallech roi cynnig ar broses weldio wahanol.
Asesu'r Rhaglen
Mae ymgeiswyr yn cwblhau cyfres o asesiadau ymarferol a chwestiynau gwybodaeth ar lafar i fodloni meini prawf y cymhwyster.
Gofynion y Rhaglen
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen lefel 1 ond rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau digonol ar gyfer y cwrs lefel 2. Rhoddir arweiniad pan fyddwch yn dechrau’r cwrs.
Costau Ychwanegol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen lefel 1 ond rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau digonol ar gyfer y cwrs lefel 2. Rhoddir arweiniad pan fyddwch yn dechrau’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.