BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol / Electronig
Cipolwg
-
Rhan-Amser
-
2 neu 3 Blynedd
-
Campws y Graig
Mae Peirianneg yn faes deinamig ac amrywiol sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Mae'r pwyslais trwy gydol y cwrs ar ddysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, sy’n dasg gyfeiriedig, gyda digon o gyfle ar gyfer gwaith aseiniad ymarferol. Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, bydd y prosiectau mawr unigol, a wneir yn yr ail flwyddyn, yn cael eu seilio ar ddiwydiant gyda goruchwylwyr diwydiannol yn cymryd rhan lawn ynddynt.
Mae hwn yn gwrs rhan-amser, dwy / tair blynedd, sefydledig, (yn dilyn HND neu HNC) sy'n darparu sylfaen gadarn ym mhob agwedd ar beirianneg drydanol ac electronig ac mae'n cyfuno'r meysydd pwnc caledwedd a meddalwedd y mae'r diwydiant yn galw amdanynt. Caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer ymarfer fel peirianwyr corfforedig a bydd y dyfarniad yn darparu sail gadarn i'r dysgwyr ar gyfer parhau mewn addysg. Achredir y dyfarniad hwn gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).
- Datblygu’r gallu i werthuso dyluniadau, proses a chynhyrchion a gwneud gwelliannau.
- Cadarnhau perthnasedd peirianneg ar gyfer datrys problemau’r byd go iawn gan ddefnyddio gwybodaeth wyddonol
- Mae’r cwrs yn cynnwys iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd.
- Datblygu gallu’r dysgwr i weld y rhyngberthynas rhwng theori ac ymarfer a chynnal ymagwedd ddamcaniaethol gadarn wrth alluogi cyflwyno technoleg newydd a datblygol i wella ymarfer cyfredol.
- Datblygu gallu’r dysgwr i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr, gan ddefnyddio dulliau ysgrifenedig, llafar a graffigol.
- Datblygu agwedd hunanddisgybledig a hunangymhellol wrth ddilyn eu hastudiaethau.
- Datblygu gallu’r dysgwr i allu dewis deunyddiau, cydrannau a thechnegau cydosod addas ar gyfer cynnyrch penodol.
- Datblygu’r gallu yn y dysgwr i gynllunio a gweithredu prosiect o fewn cyfyngiadau amser a chost, gan gymryd materion iechyd a diogelwch i ystyriaeth.
- Datblygu’r gallu i werthuso dyluniadau, prosesau a chynhyrchion a gwneud gwelliannau.
- Datblygu agwedd broffesiynol yn y dysgwr tuag at faterion megis dyluniad, dibynadwyedd a chynnal a chadw cyfarpar, ansawdd a gwerth cynnyrch, marchnata a diogelwch.
Mae unedau enghreifftiol yn cynnwys:
- Modiwlau Blwyddyn 1 : Peirianneg Rheoli, Pŵer a Pheiriannau, Signalau a Chyfathrebu Digidol, Offeryniaeth Rithwir a Systemau Rheoli, Systemau Rhwydweithio ar gyfer Peirianwyr.
- Modiwlau Blwyddyn 2 : Dylunio Electronig, Electroneg Pŵer a Gyriannau, Cynhyrchu a Phrofi Electronig
- Modiwlau Blwyddyn 3: Rheoli Peirianneg a Phrosiect Mawr.
- Caniateir i fyfyrwyr HND sydd wedi cwblhau modiwlau blwyddyn 1 gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cyflawni dyletswyddau technegol mewn swyddi sy'n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o beirianneg drydanol ac electronig. Dylent fod yn gallu dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, cynnal a rheoli cymwysiadau o dechnoleg gyfredol a datblygol ar lefel uchel. Byddant yn barod i ymarfer fel peirianwyr corfforedig a hefyd bydd ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer parhau mewn addysg.
Arholiad a hyd at bedwar darn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn brosiectau. Cyflwyniad llafar ac adroddiad prosiect ar gyfer y modiwl prosiect.
HNC Peirianneg Drydanol/Electronig
Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24: blwyddyn 1af £2,196, 2il Flwyddyn £2,097, 3edd Flwyddyn £2,013.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).