Skip to main content

Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Flynedd

  • Campws y Graig

Mae Peirianneg yn faes deinamig ac amrywiol sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.

Mae’r cwrs trydanol ac electronig hwn wedi’i gynllunio i roi i unigolion y sgiliau ymarferol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn llwyddiannus yn eu cyflogaeth bresennol a symud ymlaen i gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau cysylltiedig, gan gynnwys: dylunio, peirianneg cynnal a chadw, rheoli ac offeryniaeth, gwerthiannau technegol, addysgu, rheoli proses a rheoli PLC. 

Mae’r rhaglen yn dilyn Diploma Estynedig Technegol EAL mewn Technoleg Peirianneg Drydanol/Electronig gyda 149 credyd.

Nodweddion y Rhaglen
  • Mae’n darparu’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth yrfaol benodol, neu i ddewis rhaglen integredig. 
  • Mae’n cadarnhau perthnasedd peirianneg i broblemau’r byd go iawn. 
  • Mae’n darparu craidd cyffredin o astudiaethau gydag unedau arbenigol perthynol sy’n arwain at gyflogaeth, dilyniant proffesiynol neu academaidd i addysg uwch. 
  • Mae’n datblygu’r ystod sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol a dilyniant o fewn y diwydiant peirianneg eang a sectorau cysylltiedig. 
  • Mae’n canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth yn ymarferol a datblygu sgiliau’n ymwneud â gwaith sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig. 
Cynnwys y Rhaglen

Yr unedau blwyddyn un yw Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs) ac Electroneg Ddigidol.

Ym mlwyddyn dau, mae’r canlynol yn enghreifftiau o unedau a gwmpesir: Mathemateg Bellach, Egwyddorion Trydanol ac Electronig Pellach, Peirianneg Systemau Analog, Electroneg Analog, Pŵer Trydanol, Prosiect, Gwyddor Beirianegol Bellach, Offeryniaeth Beirianegol a Chyfathrebu Peirianegol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau HND neu gyrsiau gradd mewn pynciau perthynol. Mae swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â pheirianneg drydanol ac electronig yn cynnwys ymchwil dylunio a datblygu, rheoli ac offeryniaeth, gwerthiannau technegol, addysgu, peirianneg cynnal a chadw, rheoli proses a rheoli Plc.

Dull asesu

Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU graddau A* - C sy’n cynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. 

Cyfweliad llwyddiannus yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen yn cynnwys prawf tueddfryd ac asesiad cychwynnol. 

Croesewir mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran. 

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.