Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 i 2 flynedd yn dibynnu ar y dull astudio

  • Campws Y Graig

Mae weldio’n broses hynod ddiddorol a hanfodol sy’n dod â chrefftwaith a manwl gywirdeb peirianneg ynghyd.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau weldio a ffabrigo penodol ac mae’n cydnabod yr hyn mae person yn gallu gwneud yn y gwaith ar y lefel hon. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni'r swydd, y gallu i drefnu gwaith, nodi ac atal problemau.

Mae’r rhaglen ddysgu ffabrigo a weldio lefel 2 hon yn dilyn Diploma lefel 2 City & Guilds, unedau lefel 2 yn NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) EAL ac unedau Sgiliau Hanfodol Cymru ble y bo’n berthnasol.

Nodweddion y Rhaglen
  • Cwrs galwedigaethol yw hwn gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ar gyfer ceisiadau prentisiaeth
  • Seilir yr asesu ar bortffolio o dystiolaeth a gesglir trwy waith ymarferol ynghyd ag asesiadau ysgrifenedig/ar-lein.
  • Mae’r cwrs yn cynnig dilyniant o lefel un neu gymhwyster cyfwerth
  • Ar gwblhau’n llwyddiannus, mae’n darparu mynediad i lefel tri City & Guilds
  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mae’n cynyddu rhagolygon gwaith
  • Mae’n bodloni gofynion cyfrannol y fframwaith prentisiaeth
Cynnwys y Rhaglen

Mae enghreifftiau o’r unedau a gwmpesir yn cynnwys;  Gweithio ym maes Peirianneg, Egwyddorion Technoleg Peirianneg, Egwyddorion Technoleg Ffabrigo a Weldio, Weldio drwy MIG, Proses Ffabrigo Plât Trwchus, Bar ac Adrannau.

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddai cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr wneud cais am brentisiaeth peirianneg a/neu symud ymlaen i raglen Ffabrigo a Weldio lefel tri City & Guilds.

Dull asesu

Asesiad parhaus o waith cwrs ymarferol a datblygu portffolio, a ategir gan brofion aml-ddewis ar-lein, papurau cwestiynau atebion byrion ac aseiniadau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

O leiaf tri TGAU graddau A* - C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf ar radd C neu uwch.

Gall ymgeiswyr feddu ar dystysgrif weldio lefel un ac mae rhaid bod ganddynt ddiddordeb brwd mewn weldio neu ffabrigo. Mae cael eich derbyn ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad byr.

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.