Skip to main content

Peirianneg Fecanyddol - Rhaglen Uwch Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws y Graig 

Mae Peirianneg Fecanyddol yn faes amrywiol a deinamig sy’n cwmpasu dylunio, dadansoddi, a gweithgynhyrchu systemau a dyfeisiau mecanyddol. 

Cwrs blwyddyn llawn amser yn y coleg yw’r cwrs peirianneg fecanyddol hwn sy’n ymgorffori lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.

Mae’r Diploma Atodol peirianneg 49 credyd lefel 3 EAL yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig Technegol 149 credyd llawn (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu’r Diploma Estynedig 99 credyd (ar gyfer dilyniant prentis, rhan-amser). Datblygir sgiliau ymarferol gan ddefnyddio diploma NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) llawn 64 credyd lefel 2 EAL. Yn gynwysedig yn y rhaglen ddysgu uwch hon, ble bo’n berthnasol, mae unedau sgiliau hanfodol.

Nodweddion y Rhaglen
  • Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod am waith ac wedi cael eu paratoi ar gyfer Prentisiaeth Fodern. 
  • Datblygu Sgiliau Ymarferol
  • Lleoliad gwaith gyda chyflogwr 
  • Ymweliadau ymwybyddiaeth ddiwydiannol  
Cynnwys y Rhaglen
  • Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol
  • NVQ Lefel 2 Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol  Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ble y bo’n berthnasol
  • Cyfleoedd lleoliad gwaith
Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau sy’n galluogi dilyniant i brentisiaeth statws cyflogedig, neu’r Diploma Estynedig Technegol lefel tri llawn amser.

Dull asesu

Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad
  • Pum TGAU graddau A* - C sy’n cynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
  • Cyfweliad llwyddiannus sy’n dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen. 
  • Prawf tueddfryd / asesiad cychwynnol.
Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.