Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws Y Graig

Mae weldio yn broses hanfodol sy’n dod â chrefftwaith a manwl gywirdeb peirianneg ynghyd ac mae dosbarthiadau nos yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau weldio.

Maen nhw wedi'u hanelu at lefel un (dechreuwyr) a lefel dau (datblygu sgiliau) naill ai mewn weldio Arc neu MIG neu TIG.

Maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer hobïwyr a’r rheiny sydd yn y diwydiant, i ddatblygu sgiliau weldio ymhellach ac ennill tystysgrif City and Guilds.
Fel arfer mae ymgeiswyr yn dilyn un broses ar un lefel am y flwyddyn, gan gwblhau nifer o asesiadau ymarferol a chyfres o gwestiynau gwybodaeth ar lafar.

Nodweddion y Rhaglen

Dewiswch weldio Arc, MIG neu TIG a chewch amser i ddatblygu eich sgiliau mewn gweithdai llawn cyfarpar gyda chyngor ac arweiniad gan hyfforddwr â chymwysterau da.   Unwaith y cyrhaeddir y safon ar gyfer asesu, ewch ati i gwblhau’r darnau prawf i'w hasesu, gan grynhoi’r rhain er mwyn cwblhau'r dyfarniad llawn.

Cynnwys y Rhaglen

Mae ymgeiswyr yn dilyn cyfres o gymwysterau 3268 City and Guilds sy’n rhoi meysydd bach i'w datblygu sy'n ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau weldio.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai dilyniant olygu symud i fyny'r lefelau neu gallech roi cynnig ar broses weldio wahanol.

Dull asesu

Mae ymgeiswyr yn cwblhau cyfres o asesiadau ymarferol a chwestiynau gwybodaeth ar lafar i fodloni meini prawf y cymhwyster.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen lefel 1 ond rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau digonol ar gyfer y cwrs lefel 2. Rhoddir arweiniad pan fyddwch yn dechrau’r cwrs.

Costau Ychwanegol

£320 yw ffioedd y cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.