Mae'r dyfarniad hwn wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio ar gyfer gradd Anrhydedd ar sail ran-amser. Cynhelir y cwrs dros gyfnod o dair blynedd. Gofynnir i fyfyrwyr fynychu'r cwrs ar un diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r cwrs yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr hyn sy'n dychwelyd i addysg ar ôl saib, neu'r myfyrwyr hynny sydd wedi ennill dyfarniad HNC yn ddiweddar ac sy'n dymuno symud ymlaen ymhellach.
Bydd y cwrs hwn yn werthfawr iawn i beirianwyr y mae angen iddynt gael cymwysterau ffurfiol sy'n gymesur â'u safle presennol neu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa. Ceir cyfle am statws Peiriannydd Corfforedig neu fynediad i gymwysterau uwch sy'n arwain at statws Peiriannydd Siartredig.
Enghraifft o strwythur cwrs:
Blwyddyn 1: Gwyddor Fecanyddol, Offeryniaeth a Rheolaeth, Cynllunio Peirianegol, Mathemateg Peirianneg, Technoleg Awtomatiaeth.
Blwyddyn 2: Thermohylifau, Technoleg Awtomatiaeth Uwch, Cynllunio Peirianegol, Rheoli Peirianneg.
Blwyddyn 3: Prosiect, Dulliau Ymchwil, CAD a Dadansoddi, Mecaneg Gymhwysol, Thermodynameg.
Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o aseiniadau ac arholiadau.
HNC mewn Peirianneg Fecanyddol neu HNC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ymgeiswyr hyn sy'n meddu ar gymhwyster cyfwerth â HNC a phrofiad diwydiannol perthnasol.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).