Bwriad y rhaglen maes dysgu lefel 3 hon yw rhoi'r sgiliau ymarferol, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar unigolion i lwyddo yn eu swyddi presennol a symud ymlaen i waith yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau gweithgynhyrchu yn cynnwys: dylunio, cynllunio, drafftio, peiriannu, prosesu lled-ddargludydd a pheirianneg cynhyrchu yn delio â gofynion mecanyddol ac aml-sgiliau y diwydiant peirianneg gweithgynhyrchu.
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar gwblhau'n llwyddiannus Diploma Atodol BTEC 60 credyd blwyddyn o hyd, i gyflawni Diploma Estynedig BTEC 180 credyd mewn Peirianneg.
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus symud ymlaen i wneud cyrsiau HND neu radd mewn pynciau perthnasol. Mae'r swyddi sy'n uniongyrchol berthnasol i beirianneg gweithgynhyrchu yn cynnwys ymchwil cynllunio a datblygu, gweithgynhyrchu, peirianneg cynhyrchu, cynllunio cynhyrchu a sicrhau ansawdd. Mae gyrfaoedd eraill ble gall y sgiliau a ddatblygir trwy beirianneg gweithgynhyrchu fod yn ddefnyddiol yn cynnwys gwerthiant technegol a marchnata, addysgu neu waith patent.
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar gynnwys rhagarweiniol yr unedau a gyflwynwyd ar lefel y Diploma Atodol L3, i ymestyn gwybodaeth bresennol a chyflwyno cysyniadau a meysydd pwnc newydd, gan gynnwys: CAD mewn Peirianneg, Egwyddorion a Chymwysiadau Mecanyddol Pellach, Mathemateg Bellach, Dewis a Defnyddio PLCs, Dylunio Peirianneg a Phrosiect.
Asesir pob uned yn fewnol trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Fel rheol mae angen i fyfyrwyr 16-19 oed fod ag o leiaf 4 TGAU gradd A* - C, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Mamiaith/Saesneg, yn ogystal â Diploma Atodol L3 neu mae'n bosibl y derbynnir cymhwyster perthnasol cyfwerth mewn peirianneg. Bydd mynediad i fyfyrwyr hyn sydd heb y cymwysterau ffurfiol hyn fel y mynno'r gyfadran.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.