Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei (g)allu. Dyfarniad dwy flynedd o hyd yw hwn sydd yn addas i fyfyrwyr sydd am astudio yn llawn amser ac sy'n chwilio am yrfa yn y proffesiwn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd.
Mae cynnwys, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:
caniatáu dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddadansoddi peirianneg ac egwyddorion gwyddonol.
arddangos ymwybyddiaeth o reolaeth ansawdd, systemau iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd.
Bydd cwblhau'r HND yn llwyddiannus i safon foddhaol yn golygu bod myfyrwyr yn gymwys i gael eu derbyn i gyrsiau gradd mewn pynciau cysylltiedig o fewn Grwp PCYDD. Mae gyrfaoedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r ddisgyblaeth hon yn cynnwys Peiriannydd Datblygu Mecanyddol; Peiriannydd Dylunio Mecanyddol; Peiriannydd Cynhyrchu a Gwerthiannau Technegol. Caiff Peirianwyr Mecanyddol / Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a chan sefydliadau ymchwil.
Mae enghreifftiau o unedau'r cwrs yn cynnwys: Dylunio a Gweithgynhyrchu, Technoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol, Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Beirianegol 1, Gwyddor Fecanyddol 1, Thermo hylifau 1, Deunyddiau, Prosiect, Busnes, Diogelwch a Chyflogadwyedd, Thermo hylifau 2, Gwyddor Fecanyddol 2, Mathemateg Beirianegol 2. Offeryniaeth a Rheolaeth, Cynllunio Peirianegol a Thechnoleg Awtomataidd.
Asesir trwy gyfrwng aseiniadau ac arholiadau ar ddiwedd modiwl. Caiff y myfyrwyr eu hasesu hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.
Yn ogystal â phum pwnc TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth, bydd y meini prawf lleiafswm canlynol yn berthnasol:
TAG Lefel UG/Safon Uwch, VCE Lefel UG dyfarniad sengl neu ddwbl/AVCE dyfarniad sengl neu ddwbl: O leiaf dau Safon Uwch neu gyfwerth. Y pynciau Safon Uwch neu gyfwerth derbyniol yw Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth rhifog megis Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg neu Beirianneg.
Neu
Dystysgrif/Diploma/Diploma Estynedig Cenedlaethol, fel rheol mewn Peirianneg Fecanyddol. Graddau PP/PPP fel sy'n berthnasol, yn cynnwys modiwl Mathemateg a modiwl dadansoddol ychwanegol megis Mecaneg neu Wyddor Amgylcheddol.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).