Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei (g)allu. Bydd y dyfarniad yn galluogi myfyrwyr i wneud cyfraniad i'r proffesiwn peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd. Bydd y dyfarniad rhan-amser, dwy flynedd hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sgiliau y tu hwnt i orwelion eu swydd bresennol ac felly gwella eu rhagolygon gyrfaol.
Mae cynnwys, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:
Bydd cwblhau'r HNC yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cyrsiau HND / gradd mewn pynciau cysylltiedig. Mae'r gyrfaoedd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ddisgyblaeth hon yn cynnwys: Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol, Peiriannydd Cynllunio Mecanyddol, Peiriannydd Cynnyrch (Gwerthiannau Technegol). Caiff Peiriannwyr Mecanyddol/Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a chan sefydliadau ymchwil.
Mae enghreifftiau o unedau'r cwrs yn cynnwys: Cynllunio a Gweithgynhyrchu Arfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Peirianneg, Gwyddor Fecanyddol, Thermohylifau, Deunyddiau, Prosiect, Rheolaeth Busnes a Thechnoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol.
Asesir ar sail aseiniadau ac arholiadau ar ddiwedd modiwl ar gyfer y dyfarniad hwn. Asesir myfyrwyr hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau'n llwyddiannus Dystysgrif/Diploma/Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn pwnc Peirianneg, AVCE neu Safon Uwch neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol. Gellir ystyried myfyrwyr hyn â phrofiad diwydiannol perthnasol heb y cymwysterau ffurfiol a nodwyd.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).