Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fodloni ymgeiswyr sydd am gael sylfaen mewn sgiliau peirianneg ac sydd am ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd cysgodol dan reolaeth.
Mae'r rhaglen maes dysgu lefel 1 hon yn cynnwys tystysgrif PEO lefel 1, ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg (yn ôl yr angen) a Bagloriaeth Cymru ar lefel 1.
Mae'r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud gwaith neu sgil benodol i safon lefel 1 a gall eich helpu i symud ymlaen i swydd neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg.
Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sgiliau peirianneg eang ac yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd benodol ym maes peirianneg (h.y. mecanyddol, trydanol neu weldio). Byddai dilyniant fel arfer i'r rhaglen maes dysgu Peirianneg Gyffredinol 2.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys Tystysgrif PEO lefel 1, ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg (fel sy'n berthnasol) a Bagloriaeth Cymru L1.
Asesu gwaith cwrs ymarferol yn barhaus a datblygu portffolio.
Y gofynion mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw o leiaf dau TGAU gradd E (yn cynnwys Mathemateg a Chymraeg Mamiaith/Saesneg), ynghyd ag un radd C neu gyfwerth, ac yn amodol ar gyfweliad yn cynnwys profion diagnostig.
Rhaid i ymgeiswyr arddangos y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer y cwrs hwn, gyda dymuniad brwd i gyflawni cymhwyster peirianneg.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.