Mae'r rhaglen ddysgu lefel 2 hon yn cynnwys Tystysgrif City & Guilds L2 a Bagloriaeth Cymru L2. Cynlluniwyd y rhaglen hon i fodloni ymgeiswyr sydd eisiau symud ymlaen, ond nad ydynt yn barod am raglen lefel 3 ac sydd yn dymuno ennill cymwyseddau peirianneg lefel 2 mewn amgylchedd cysgodol, rheoledig.
Mae cyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg ar gael gyda'r cwrs hwn, sydd yn ofynion hanfodol ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau peirianneg lefel 3.
Mae'r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud gorchwyl neu sgil benodol i safon lefel 2 a gall hyn eich helpu i symud ymlaen i fyd gwaith neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sail eang o sgiliau peirianneg ac yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianneg penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).
Mae'r rhaglen yn cynnwys ymdriniaeth o Dystysgrif L2 City & Guilds, Bagloriaeth Cymru L2 ac ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg fel sy'n berthnasol.
Asesu gwaith cwrs ymarferol yn barhaus, datblygu portffolio, aseiniadau a phrofion dosbarth.
Y gofynion mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw o leiaf un TGAU gradd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Mamiaith/Saesneg gradd D o leiaf, ac mae derbyn yn amodol ar gyfweliad gan gynnwys profion diagnostig.
Rhaid i ymgeiswyr arddangos y sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gyda dymuniad brwd i gyflawni cymhwyster peirianneg.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
All learners are required to pay an administration fee of £45 prior to enrolment.
You will need to provide your own stationery and may also incur costs if the department arranges educational visits.