Mae'r cwrs peirianneg fecanyddol hwn yn gwrs llawn amser blwyddyn o hyd yn y coleg sy'n cynnwys lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.
Mae'r Diploma Atodol BTEC lefel 3 60 credyd mewn peirianneg yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig llawn 180 credyd (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu'r Diploma 90 credyd (ar gyfer dilyniant rhan-amser, fel prentis). Caiff sgiliau ymarferol eu datblygu gan ddefnyddio diploma NVQ lefel 2 64 credyd Perfformio Gweithrediadau Peirianneg EAL. Mae'r rhaglen ddysgu uwch hon yn cynnwys unedau sgiliau hanfodol lle bo hynny'n berthnasol.
Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau i chi allu symud ymlaen i brentisiaeth statws cyflogedig, neu'r Diploma Estynedig L3 llawn amser.
Caiff pob uned ei hasesu'n fewnol trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.