Nod y cwrs hwn yw datblygu eich sgiliau personol, cymdeithasol a galwedigaethol ac mae'n eich helpu i wella sgiliau hanfodol gan gynnwys rhifedd, llythrennedd a TGCh.
Byddwch yn samplu amrywiaeth o sgiliau cysylltiedig â gwaith i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu. Mae dysgu wedi'i gynllunio i fodloni gofynion unigol ac efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol a gweithgareddau hamdden gyda'r nod o ddatblygu eich sgiliau cymdeithasol a'ch hyder.
Gellir cyflwyno'r cwrs dros gampysau’r Graig a Rhydaman. Addysgir y cwrs ar lefel Mynediad 2 gyda llwybr dilyniant clir.
Gall y cwrs hefyd helpu i'ch paratoi ar gyfer astudio o fewn rhaglenni galwedigaethol prif ffrwd.
Byddwch yn gallu cael mynediad i ystod o gyfleoedd er mwyn cael rhagflas galwedigaethol gydag opsiynau i ennill cymwysterau ychwanegol. Byddwch yn derbyn cymorth ystafell ddosbarth ac arweiniad gyrfaol arbenigol.
Gallwch gymryd dau lwybr clir, gallwch naill ai symud ymlaen i'r Dyfarniadau Sgiliau ar gyfer Gwaith Mynediad 3 er mwyn astudio galwedigaethol pellach neu gallwch symud ymlaen i'r cwrs Datblygiad Personol a Chymdeithasol Mynediad 3.
Gall y ddau gwrs hyn arwain at naill ai gyrsiau coleg prif ffrwd neu gyflogaeth. Fel arall, gallai'r cyrsiau arwain at lwybrau cyflogaeth â chymorth.
Bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen diwtorial y coleg ynghyd â sesiynau rhifedd a llythrennedd. Mae'r modiwlau galwedigaethol yn cynnwys:
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cesglir tystiolaeth arddull portffolio ac asesir deilliannau dysgu trwy weithgareddau ymarferol a gwaith sy’n seiliedig ar aseiniadau.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond fe'ch gwahoddir i ddod i gyfweliad anffurfiol lle byddwn yn asesu eich anghenion dysgu a’ch diddordeb galwedigaethol ac yn eich matsio i'r cwrs mwyaf priodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.