Nod y cwrs yw datblygu eich sgiliau personol a chymdeithasol a’ch helpu i wella sgiliau hanfodol. Cewch flas ar amrywiaeth o sgiliau cysylltiedig â gwaith ar y cwrs hwn ac i sicrhau bod anghenion pob myfyriwr yn cael eu diwallu, mae dysgu wedi'i gynllunio i fodloni gofynion unigol. Mae'r modiwlau'n cynnwys sgiliau bywyd, ymwybyddiaeth gymunedol, menter a sgiliau cymdeithasol.
Rhaglen goleg lawn amser yw hon sy'n cynnwys:
Byddwch yn symud ymlaen i Sgiliau mewn Annibyniaeth ar lefel Mynediad dau, gan ddilyn dau lwybr galwedigaethol. Fel arall, gallwch symud ymlaen i gynlluniau cyflogaeth â chymorth.
Mae sesiynau ymarferol yn cynnwys coginio, gweithio yn yr awyr agored a ffordd o fyw iach. Byddwch yn gweithio ar sgiliau personol i fagu hyder a byddwch yn gallu gweithio gyda'ch gilydd mewn tîm neu'n unigol.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cesglir tystiolaeth arddull portffolio ac asesir deilliannau dysgu trwy weithgareddau ymarferol a gwaith sy’n seiliedig ar aseiniadau.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond fe'ch gwahoddir i ddod i gyfweliad anffurfiol lle byddwn yn asesu anghenion dysgu a diddordeb galwedigaethol ac yn eich matsio i'r cwrs mwyaf priodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.