Mae'r cwrs Dechrau Newydd Mynediad 3 yn cynnig cyflwyniad rhagorol i fyfyrwyr i fywyd coleg ac i fyd addysg bellach.
Mae wedi'i anelu at y rheiny sy'n dychwelyd i addysg, myfyrwyr a all fod angen cymorth ychwanegol gyda'u hastudiaethau neu eu bywyd personol, myfyrwyr heb unrhyw gymwysterau blaenorol neu'r rheiny nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr galwedigaethol.
Cyflwynir y cwrs dros dri champws sef y Graig (Llanelli), Pibwrlwyd (Caerfyrddin) a Rhydaman.
Byddwch yn cael cyfle i gymryd sesiynau rhagflas mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol a mynychu lleoliadau profiad gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
1 flwyddyn
Campws Rhydaman / Graig / Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Mae tîm tiwtoriaid y cwrs Dechrau Newydd yn unigolion profiadol a medrus sy’n cyflwyno addysgu a dysgu i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol a chymhelliant er mwyn adennill eu diddordeb mewn addysg.
Mae llawer o agweddau ar y cwrs yn seiliedig ar sesiynau adeiladu tîm gweithredol er mwyn helpu dysgwyr i fagu hyder ac ennill sgiliau tîm, gyda llawer ohono’n cael ei gyflwyno fel rhan o Wobr Efydd Dug Caeredin. Yn ogystal targedir datblygiad sgiliau mewn rhifedd a llythrennedd ar hyd y flwyddyn.
Tua diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ac arweiniad i’w helpu i ddewis llwybr dilyniant priodol.
Cynnwys y Rhaglen
Mae elfennau craidd y cwrs yn cynnwys:
Cymhwyster galwedigaethol lefel tri Mynediad.
Gwobr Efydd Dug Caeredin
Rhaglen diwtorial
Adolygiad cynnydd
Datblygiad llythrennedd a rhifedd trwy lwybrau amrywiol: ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored , Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Byddwch Actif
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae'r cwrs yn cefnogi cyfleoedd i symud ymlaen i gwrs sylfaen y coleg neu i gyfleoedd hyfforddi eraill.
Cyflwynir y rhaglen mewn amgylchedd dysgu tra chefnogol.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau galwedigaethol yn fewnol trwy aseiniadau ac arsylwadau gan diwtoriaid. Asesir sgiliau trwy asesiadau ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.Asesir addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn y cyfweliad.
Bydd gan ddysgwyr sy'n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr wahanol ofynion mynediad, sy’n cynnwys - cwblhau ac ymgysylltu'n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.