Daeth Elin Wyn-Murphy, sy’n gydlynydd cymunedol gydag Ambiwlans Awyr Cymru, i ymweld â champws y Graig Coleg Sir Gâr yn Llanelli i gefnogi dathliadau Cariad a oedd yn cynnwys perfformiadau, triniaethau harddwch a gwerthiant nwyddau wedi pobi.
Aeth campysau eraill ar draws y ddwy sir ati i drefnu digwyddiadau’n cynnwys codi arian drwy olchi ceir yn y canolfannau cerbydau modur, rhoi eu sgiliau patisserie ar brawf wnaeth y myfyrwyr arlwyo a gwnaeth Undeb y Myfyrwyr rodd o elw’r bwrdd pŵl.
Meddai Nikki Neale, uwch-gyfarwyddwr ar gyfer profiadau dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Roedden ni wrth ein bodd yn estyn croeso i Elin Wyn-Murphy i roi cychwyn ar lansio ein menter Cariad gan ein bod am ddathlu’r cyfraniadau cadarnhaol a wneir gan ein dysgwyr a’n staff i’r coleg a’r gymuned ehangach.
“Mae myfyrwyr a staff wedi croesawu’r cynllun Cariad yn galonnog ac mewn byd lle y gwelir cymaint o negyddoldeb, mae’n hyfryd gweld y ddau goleg yn canolbwyntio ar hyrwyddo caredigrwydd a phositifrwydd.
“Gellir enwebu staff a myfyrwyr sydd wedi arddangos ymddygiad codi arian neu ymddygiad gofalgar neilltuol a byddant yn derbyn gwobrau Cariad unigol a wnaed â llaw gan ein timau gwaith saer ar gampws Rhydaman.
Dangosodd Lee Waters AC, ei gefnogaeth i’r lansiad yn ystod ymweliad â’r coleg i longyfarch ein henillwyr medalau yng nghystadleuaeth Sgiliau’r DU.