Skip to main content

Gwirfoddoli.

Mae gwirfoddoli yn caniatáu i chi gysylltu ag eraill ar draws y coleg. Mae’n rhoi’r cyfle i chi ymarfer sgiliau pwysig a ddefnyddir yn y gweithle, megis gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiectau, rheoli tasgau, a threfnu. Yn ogystal, mae’n helpu datblygu eich hyder a’ch sgiliau cymdeithasol wrth i chi gwrdd yn rheolaidd â grwpiau o bobl sydd â diddordebau cyffredin.

Gofynnwch i’ch Tiwtor am y cyfleoedd sydd ar gael.

Gwirfoddoli gyda 5x30

Gallai eich rôl gynnwys hyfforddi a chynorthwyo mewn sesiynau ymarferol, trefnu a rhedeg digwyddiadau, casglu data a marchnata. Bydd yr adran 5x30 yn cefnogi eich cais i ddod yn Llysgennad Arian, gyda Chwaraeon Cymru. Bydd gwirfoddoli yn eich galluogi i ennill profiad yn gweithio yn y sector chwaraeon, a bydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a rhinweddau newydd. Does dim angen i chi fod yn astudio Chwaraeon i wirfoddoli gyda ni. Mae angen i chi fod â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â bod yn frwdfrydig dros annog eraill i fod yn actif.  Mae yna hyblygrwydd i weithio o gwmpas eich amserlen ac i chi ymrwymo amser a fydd yn eich siwtio chi.  Mae gwirfoddolwyr 5x30 yn aelodau gwerthfawr o’r coleg. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled rydych yn ei gyfrannu trwy gydol y flwyddyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr 5x30, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.