Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • Blwyddyn yn llawn amser / Dwy flynedd yn rhan-amser

  • Campws Rhydaman 

Mae cynghori yn yrfa broffesiynol lle mae empathi, tosturi a gwrando gweithredol yn cyfuno i rymuso unigolion ar eu taith o dwf personol a gwella.

Mae'r BA mewn cynghori (atodol) yn gwrs blwyddyn llawn amser neu ddwy flynedd rhan-amser sy'n agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau gradd sylfaen y coleg neu gymhwyster cyfwerth.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) ac o ganlyniad mae'n cael ei fonitro gan BACP er mwyn bodloni eu safonau hyfforddiant. 

Mae angen i chi naill ai gwblhau'r radd sylfaen lawn amser yn ogystal â'r BA neu gwblhau'r radd sylfaen yn rhan-amser dros dair blynedd er mwyn bod ar y rhaglen BACP achrededig.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r BA yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i gynghorwyr yn dilyn eu gradd sylfaen yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd anrhydedd BA lawn.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r BA yn cynnwys pum modiwl: 

  • Sylfaen mewn cynghori pobl ifanc 
  • Cyflwyniad i Therapi ymddygiad gwybyddol
  • Gweithio gyda thrawma 
  •  Datblygu Ymarfer Integreiddiol
  • Traethawd estynedig
Dilyniant a Chyflogaeth

Gallwch symud ymlaen o'r BA i gwrs meistr ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe neu rywle arall, os ydych chi'n bodloni’r  gofynion mynediad.

Mae myfyrwyr o'r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.

Dull asesu

Asesu parhaus drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys: 

  • Crynodebau dyddlyfr adfyfyriol
  • Traethodau ar theori
  • Astudiaethau achos 
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol  
  • Prosiect annibynnol/Traethawd estynedig
Gofynion Mynediad
  • Mae angen i ymgeiswyr fod yn gynghorwyr cymwys sydd wedi cwblhau 240 credyd ar lefel pump o gymhwyster cynghori
  • Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
  • Dau eirda
  • Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawmâu neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs.   Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â'r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs
Costau Ychwanegol

DBS Manwl: £46

Aelodaeth myfyriwr BACP - £86 y flwyddyn

Llyfrau - mae'r llyfrgell yn adnodd gwych ac mae'n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy'n ofynnol ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.