Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser/Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser

  • Campws Rhydaman 

Mae’r rhaglen BA mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yn gwbl unigryw, gan mai dyma’r unig gwrs o’i fath yng Nghymru. Mae'n galluogi myfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar radd sylfaen gysylltiedig neu gyfwerth i gwblhau modiwlau ychwanegol (120 o gredydau) i uwchraddio i gymhwyster BA (Anrh).  Mae’r cwrs yn cynnig cyfle pellach i archwilio diddordebau unigol boed hynny yn weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ym mhob maes o’r sector gofal cymdeithasol.   Ei nod yw annog archwilio ystod eang o bynciau ymhellach. Mae hyn yn caniatáu myfyrwyr i deilwra cynnwys y cwrs i'w meysydd diddordeb eu hunain neu eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Caiff y cwrs ei ddilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae cynnwys y cwrs yn cael ei ddiweddaru gan y darlithwyr sydd i gyd â chefndir proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol.

Cyflwynir y cwrs mewn dull cyfunol, sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael darlithoedd wyneb yn wyneb wedi’u hategu gan ddysgu ar-lein, adnoddau a thiwtorialau unigol. Disgwylir i fyfyrwyr yn ogystal ymgymryd ag astudio hunangyfeiriedig, annibynnol.  Gellir astudio’n llawn amser (2 ddiwrnod yr wythnos) dros un flwyddyn, neu'n rhan-amser (1 diwrnod yr wythnos) dros ddwy flynedd ar ein campws yn Rhydaman.

Nodweddion y Rhaglen
  • Cyfle i uwchraddio i radd anrhydedd lawn yn llawn amser neu’n rhan-amser
  • Tiwtoriaid profiadol sy’n gymwys yn academaidd a phroffesiynol hefyd
  • Cyfle ar gyfer astudio arbenigol a hunangyfeiriedig mewn meysydd a ddewisir gan y myfyriwr ac a arweinir gan diwtoriaid
  • Astudio mewn grwpiau bach er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad ag eraill
  • Arweiniad a chefnogaeth un i un gyda'ch prosiect ymchwil annibynnol gan oruchwyliwr profiadol.
Cynnwys y Rhaglen

Beth fydda i'n astudio? Mae'r modiwlau'n cynnwys: 

  • Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion
  • Grwpiau Nas Clywir yn Aml
  • Llais, Dewis, Rheolaeth i Blant a Phobl Ifanc
  • Ymddygiad Heriol
  • Prosiect Ymchwil Annibynnol
Dilyniant a Chyflogaeth

Yn dilyn cwblhau’r BA, gall myfyrwyr wneud cais i astudio ymhellach (ôl-raddedig) mewn meysydd fel addysgu, gwaith cymdeithasol, neu ystod o Raddau Meistr eraill.   Mae’r radd BA yn gymhwyster defnyddiol, hyblyg a all eich helpu i gael mynediad i amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn meysydd fel iechyd meddwl, addysg neu’r gwasanaeth prawf gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion.  Mae ennill gradd Anrhydedd yn dangos sgiliau lefel uwch sy’n apelio at ddarpar gyflogwyr.

Sut i wneud cais:

Rhaid i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais trwy UCAS gan ddefnyddio’r cod cwrs 3D4C a’r cod sefydliad C22. Gellir gwneud ceisiadau rhan-amser drwy wefan Coleg Sir Gâr

Mae gwybodaeth am ffioedd ar gael gan yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg a Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Dull asesu

Mae’r asesu drwy aseiniadau.  Does dim arholiadau.

Gofynion Mynediad

Gradd sylfaen neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (Gofal Cymdeithasol; Plant, Pobl Ifanc a Chymdeithas; Astudiaethau Plentyndod neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol) neu gymhwyster tebyg sy’n gyfwerth â dwy flynedd o addysg uwch: 120 o gredydau ar lefel 4 a 5 hefyd.   Gallai hyn ddod o gymysgedd o ddulliau astudio gan gynnwys y Brifysgol Agored, HND/HNC neu gymwysterau cysylltiedig â gwaith.

Mae’n bosib y gall ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol (personol neu broffesiynol) mewn gofal cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion gael eu credydu am eu haddysg a/neu hyfforddiant blaenorol ar ôl cyflwyno  portffolio o dystiolaeth i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, a’i gymeradwyo. Mae pob ymgeisydd yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad anffurfiol.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.