Capasiti’r campysau ar gyfer mis Medi (Dydd Llun 7fed i ddydd Gwener 25ain)
Ni fydd mwy na 50% o fyfyrwyr o unrhyw gyfadran ar y campws ar unrhyw un adeg
ym mis Medi (hyd at Fedi 25ain). Bydd hyn yn caniatáu cyfnod setlo o 3 wythnos ar draws
yr holl gampysau. Bydd eich Tiwtor yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y diwrnod cyntaf y byddwch chi’n mynychu’r Coleg.
Bydd y capasiti hwn yn cael ei adolygu a gall newid ym mis Hydref. Adeg y gwyliau hanner tymor,
bydd y capasiti ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn cael ei osod.
Ni fydd y 50% yn berthnasol i ddarpariaeth Ysgolion, lle bydd disgwyl i’r holl ddisgyblion fynychu.
Cynefino dysgwyr newydd
Mae safle cynefino Google canolog wedi’i wneud ar gael i bob dysgwr sydd wedi cofrestru. Bydd y cyfnod cynefino yn dechrau o 7 Medi.
Bydd y cyfnod cynefino yn para am yr wythnos gyntaf a bydd yn gymysgedd o fynediad o bell a mynediad ar y campws.