

Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae gwella safonaCroeso i'r gymuned Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr . Rydym yn dîm bach ac ymroddedig gyda blynyddoedd lawer o brofiad addysgu yn ogystal ag amser a dreuliwyd yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Rydym yn cyflwyno'r cyrsiau canlynol yn ein hardal:
Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Diploma Lefel 2 mewn Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai
Mae'r cyrsiau cyffrous hyn, sy'n cael eu cynnal ar Gampws Graig, yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar waith y gwasanaethau brys, milwrol a gwirfoddol. Nid yn unig y mae'r cwrs yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r sector cyhoeddus, ond mae'n caniatáu iddynt ddatblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle ac addysg uwch. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys: gweithio mewn tîm; gweithio o frîff rhagnodedig; gweithio o fewn terfynau amser; cyflwyno gwybodaeth yn effeithiol; bod yn drefnus a datblygu gwytnwch.