Gweithdrefnau Gweithredu’r Ganolfan.
Cyswllt Cychwynnol
Mae myfyrwyr fel rheol yn cael eu cyfeirio at y Ganolfan drwy un o ddau ddull; naill ai bydd Corff Cyllido’r myfyriwr yn cysylltu â ni yn uniongyrchol i drefnu apwyntiad, neu mae’r myfyriwr yn ei gyfeirio ei hun ar ôl derbyn hysbysiad gan ei gorff cyllido i fynd ymlaen a threfnu Asesiad o Anghenion (NAR).
Rhaid i fyfyrwyr gael tystiolaeth ysgrifenedig gan eu corff cyllido yn cydsynio â’r apwyntiad cyn bod asesiad yn gallu cael ei drefnu.
Trefnu Apwyntiad
Bydd Ganolfan Asesu Coleg Sir Gâr (GACSG) yn ceisio trefnu apwyntiad ar amser sy’n gyfleus i’r myfyriwr a phan fydd aseswr addas ar gael, gan edrych ar ddyddiadur electronig y Ganolfan, dogfen sydd ar gael i holl staff perthnasol y ganolfan. Rydym yn anelu at ddarparu dyddiad asesiad i’r myfyriwr dim mwy na 15 diwrnod gwaith ar ôl y cyswllt cyntaf ble bynnag y mae’n bosibl. Ni fyddwn yn rhoi aseswr i fyfyriwr mewnol (h.y. Coleg Sir Gâr) lle mae’r ddau ohonynt wedi gweithio gyda'i gilydd yn y gorffennol neu’n gweithio gyda’i gilydd mewn sefyllfa arall ar hyn o bryd (e.e. hyfforddiant TG, gweithiwr cymorth ac ati).
Yn ystod yr amser bwcio, caiff y myfyriwr ei hysbysu os nad yw’n darparu tystiolaeth ddogfennol i’r ganolfan gan ei gorff cyllido yn cadarnhau cefnogaeth ar gyfer yr asesiad, bydd yr apwyntiad yn cael ei ganslo nes bod y dogfennau yn cael eu darparu. Caiff y myfyriwr hefyd ei hysbysu bod methu â bod yn bresennol neu roi 24 awr o rybudd yn golygu dirwy o £50.00.
Mae llythyr yn cael ei anfon at y myfyriwr ar yr un dydd â’r bwcio, yn cadarnhau manylion ei asesiad ac yn gofyn am gadarnhad p’un a yw eisiau ei asesiad drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’r llythyr yn dod gyda Holiadur Cyn-Asesu. Ar y pwynt yma, a phan fo’n angenrheidiol, anfonir llythyr neu e-bost i sefydliad y myfyriwr yn gofyn am fanylion llawn cwrs y myfyriwr gan gynnwys dulliau asesu ac ati.
Caiff manylion rhagarweiniol y myfyriwr eu cofnodi ar Gronfa Ddata GACSG.
Canslo Apwyntiadau
Mae’r llythyr cadarnhau a gaiff ei anfon at y myfyriwr yn cynnwys cymal sy’n rhybuddio’r myfyriwr y bydd yn derbyn dirwy o £50.00 os yw’n canslo’r apwyntiad yn hwyr neu’n absennol heb rybudd.
Os yw’r myfyriwr yn canslo’r apwyntiad gyda mwy na 24 awr o rybudd bydd y gweinyddwr yn ceisio llenwi’r apwyntiad gyda myfyriwr arall sy’n aros am asesiad ac sydd â’i waith papur mewn trefn. Os yw’r myfyriwr yn canslo’r apwyntiad gyda llai na 24 awr o rybudd, neu ddim yn cyrraedd ar gyfer yr apwyntiad, byddwn yn anfon llythyr i’r myfyriwr gydag anfoneb wedi’i chynhyrchu gan y gweinyddwr ar gyfer y tâl absenoldeb safonol.
Ymchwil
Unwaith mae’r ddogfennaeth sy’n cadarnhau anabledd a/neu anhawster y myfyriwr yn cael ei derbyn, bydd y wybodaeth hon wedyn yn cael ei rhoi i aseswr y myfyriwr. Cyn yr apwyntiad asesu, mae disgwyl i’r aseswr wneud ymchwil cefndirol i gwrs y myfyriwr, darpariaeth cymorth y sefydliad ac anabledd/cyflwr y myfyriwr unigol, dylai hyn i gyd gael ei logio naill ai yn logiau ffôn a/neu bost y ganolfan a/neu ei gofnodi yn ffeil y myfyriwr. Os yw’r aseswr yn cael unrhyw anawsterau neu frwydrau a phroblemau, maent yn cael eu hannog i ofyn am gyngor Rheolwr y Ganolfan neu, fel arall, Swyddog Anabledd y myfyriwr.
Apwyntiad yr Asesiad o Anghenion
Mae pob aseswr yn cael ei annog i gynnal yr asesiad o anghenion o fewn y Ganolfan neu Ganolfan Estyn Allan os yn bosibl. Mae hyn i sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad i ddewis eang ac amrywiol o gyfarpar ac adnoddau, gan gynnwys esiamplau gwahanol o galedwedd a meddalwedd a chymhorthion dysgu. Fodd bynnag, yn achos myfyrwyr gyda phroblemau symudedd, bydd yr aseswr mewn rhai achosion yn ymweld â chartref y myfyriwr er mwyn cynnal yr asesiad. Yn yr achosion hyn, gofynnir i Aseswyr i arsylwi a chadw at Bolisi Gweithiwr Unigol y Ganolfan.
Mae’n gyfrifoldeb ar yr Aseswr i sicrhau bod ganddo’r holl gymhorthion a chyfleusterau technolegol ar gael yn barod yn ystod yr asesiad ac i sicrhau bod yr holl gynhyrchion yn gweithio’n gywir. Dylid rhoi gwybod am unrhyw gyfarpar sy’n camweithio neu’n ddiffygiol i Reolwr y Ganolfan yn syth, sy’n gyfrifol yn y pen draw am gynnal, adolygu ac uwchraddio holl gyfarpar a chymhorthion y ganolfan.
Anogir aseswyr i roi cymaint o amser ag sydd angen i’r myfyriwr er mwyn hwyluso amgylchedd gwresog a llawn ymddiriedaeth i drafod ei anghenion addysgol. Bydd lluniaeth ar gael ar unrhyw amser yn ystod yr asesiad.
Bydd pob asesiad yn cael ei gyflawni mewn cytundeb â Gweithdrefnau Canllaw QAF Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA) sydd ar gael i bob Aseswr yn eu Portffolios Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD).
Adroddiadau a Lledaenu
Mae pob Asesiad o Anghenion a gynhyrchir gan GACSG yn defnyddio’r fformat QAF a dylid ei gwblhau a’i basio ymlaen ar gyfer gwiriadau ansawdd o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl yr asesiad.
Ym mhob enghraifft, dylai’r adroddiad fod yn ddisgrifiad cywir a diduedd o’r apwyntiad ac ni ddylai’r aseswr wneud unrhyw ragdybiaeth, dyfaliad neu olygiad o gwbl ar ei ddarganfyddiadau. Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswr i wneud cais am, a chynnwys, dyfyniadau am argymhellion ar gyfer cymorth dynol a thechnolegol a sicrhau bod dyfyniadau sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad wedi eu gwirio ac yn gywir.
System Osgoi Drafft
O dan y system QAF newydd bydd gan fyfyrwyr yr opsiwn i osgoi’r cam drafft a bydd drafft terfynol yn cael ei anfon i’r corff cyllido o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cais am ddrafft
Unwaith mae’r drafft wedi cael ei wirio gan y gweinyddwr am wallau gramadegol a sillafu, caiff ei anfon at Reolwr y Ganolfan am sicrwydd ansawdd a chymeradwyaeth (o fewn 10 diwrnod gwaith). Unwaith y ceir hyn, os bydd cais am ddrafft caiff ei anfon at y myfyriwr gyda llythyr eglurhaol a Slip Ateb yn gofyn am ganiatâd y myfyriwr cyn lledaenu’r wybodaeth i’r corff cyllido a’r sefydliad.
Caiff ei ddatgan yn glir yn y llythyr eglurhaol os nad yw’r myfyriwr yn cysylltu â GACSG o fewn 10 diwrnod gwaith neu ddim yn anfon ei Slip Ateb yn ôl, bydd yr adran weinyddol yn cymryd yn ganiataol bod y myfyriwr yn caniatáu lledaenu gwybodaeth yr adroddiad.
Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswr i ychwanegu at yr adroddiad a’i newid os yw’r myfyriwr yn ei weld yn angenrheidiol. Dylid nodi unrhyw fanylion am y drafft ac/neu gopi terfynol o’r NAR yn ogystal ag unrhyw newidiadau yn ffeil y myfyriwr a chronfa ddata’r ganolfan.
Gwaith Dilynol ac Ymholiadau
Mae’r aseswr yn gyfrifol am fynd ar ôl yr holl gwestiynau sy’n codi wrth ledaenu gwybodaeth yr adroddiad. Dylai’r cyfathrebu i gyd gael ei wneud drwy’r ganolfan a’i gofnodi naill ai yn llyfr post neu lyfr ffôn y ganolfan neu, fel arall, yn ffeil y myfyriwr. Dylid cofnodi unrhyw gamau gweithredu yn ffeil y myfyriwr.
Bydd y gweinyddwr hefyd yn cylchredeg holiadur i bob myfyriwr sydd wedi defnyddio’r ganolfan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gofyn iddynt i raddio effeithiolrwydd y ddarpariaeth gymorth a awgrymwyd iddynt yn dilyn eu Hasesiad o Anghenion. Rydym yn defnyddio hyn i raddio effeithiolrwydd a gwerth ein hargymhellion ac i sicrhau ein bod yn awgrymu hyfforddiant sgiliau astudio a chyfarpar y mae’r myfyrwyr yn eu ffeindio’n fuddiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01267 225191
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Ffrâm Amser Asesu Anghenion
CAM GWEITHREDU I’W GYMRYD |
FFRÂM AMSER |
Trefnu apwyntiad ar gyfer Asesiad o Anghenion o fewn... | ...y 15 diwrnod gwaith nesaf |
Ar ôl i chi gael eich asesiad, byddwn yn anfon copi drafft o’r adroddiad i chi ei ddarllen (a’i gymeradwyo drwy gwblhau’r slip sy’n dod gydag ef)... | ...o fewn 10 diwrnod gwaith i’ch apwyntiad asesu |
Os ydych wedi dewis peidio cael copi drafft o’r adroddiad, byddwn yn anfon yr adroddiad i’ch corff cyllido | ...o fewn 10 diwrnod gwaith i’ch apwyntiad asesu |
Cytuno, trafod, ymchwilio a gwneud unrhyw newidiadau i’ch adroddiad unwaith rydym wedi clywed nôl wrthoch... | ...o fewn 1 diwrnod gwaith |
Anfon y copi terfynol o’ch Adroddiad Asesu Anghenion (NAR) i’ch corff cyllido... | ...o fewn 1 diwrnod gwaith |
Anfon copi terfynol o’ch Adroddiad Asesu Anghenion (NAR) atoch chi a’ch prifysgol… | ...o fewn 3 diwrnod gwaith |