Newydd i'r llyfrgell?

Efallai bod popeth i'w weld yn ddryslyd ar y foment, mae ffeindio eich ffordd o gwmpas yn gallu bod yn frawychus ac nid yw'n hawdd gwybod pa adnoddau a chymorth sydd ar gael.

Cofiwch, dydych chi ddim wrth eich hunan!

Bydd tudalennau gwe'r llyfrgell yn eich helpu i ddechrau ac mae yna daflenni cymorth ar gael yn y llyfrgell.

Mae llyfrgelloedd heb furiau gan Goleg Sir Gâr!! Mae llawer o adnoddau a gwybodaeth ar gael ar-lein a dim ond galwad ffôn neu e-bost i ffwrdd ydyn ni. OND … beth am ddod i gwrdd â ni'n bersonol, mae'r llyfrgell yn lle gwych i astudio ac mae'r staff y awyddus i helpu.

Cewch gynnig i gael sesiwn gynefino â'r llyfrgell ar ddechrau eich cwrs. Bydd hyn yn cwmpasu'r hanfodion i gyd a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau hefyd! Ond, os ydych yn methu hyn, rydych wedi dechrau'n hwyr — neu hyd yn oed os hoffech chi fynd drwy bethau eto - mae modd i chi gael sesiwn galw heibio neu sesiwn un i un wedi'i bwcio ymlaen llaw - dim ond i chi gysylltu â llyfrgell eich campws.

Oes angen Cerdyn Llyfrgell arnoch chi? … Efallai bod un gennych yn barod! Eich Cerdyn Adnabod Coleg Sir Gâr yw eich Cerdyn Llyfrgell hefyd. Does dim cofrestriad ar wahân, felly unwaith eich bod wedi derbyn eich cerdyn gallwch chi ddechrau benthyca. Cofiwch y bydd angen eich cerdyn arnoch bob tro y byddwch yn ymweld â'r Llyfrgell a pheidiwch â gadael i unrhyw un arall ei ddefnyddio.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.