Skip to main content

Tystysgrif Addysg Uwch Gwyddor Anifeiliaid Lefel 4 Ar-lein

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • Blwyddyn yn Llawn Amser / Dwy flynedd yn Rhan-amser

  • Ar-lein

Mae’r cwrs gwyddor anifeiliaid ar-lein hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso’r wybodaeth hon i les anifeiliaid, hwsmonaeth a chadwraeth.

Astudir y cwrs cyfan 100% ar-lein a gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n llawn amser a gall arwain at symud ymlaen i radd sylfaen y coleg mewn gwyddor anifeiliaid neu’r radd BSc anrhydedd mewn ymddygiad a lles anifeiliaid.

Mae'n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy ddysgu o bell ddatblygu gwybodaeth graidd a sgiliau allweddol sy'n ofynnol i israddedigion sy'n anelu at weithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid neu sydd eisoes yn gweithio ynddynt.

Gall myfyrwyr gofrestru i astudio naill ai ym mis Medi, mis Ionawr neu fis Mai.  Mae angen iddynt gwblhau chwe modiwl i gyflawni’r cymhwyster.

Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio gartref ar amser sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw er mwyn datblygu ystod o sgiliau, nodweddion ac agweddau personol sy’n angenrheidiol i weithio ym maes gwyddor anifeiliaid yn llwyddiannus. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae myfyrwyr rhan-amser yn gwneud un modiwl bob semester, am dri semester y flwyddyn dros ddwy flynedd. Mae myfyrwyr llawn amser yn gwneud dau fodiwl y semester am dri semester mewn blwyddyn.

Mae pob modiwl yn cynnwys deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau ar-lein helaeth gan gynnwys deunyddiau dysgu ar-lein a deunyddiau ymchwil llyfrgelloedd Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn ogystal â mynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos trwy VLE Moodle y coleg a Google Classrooms ategol.

Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud ag ymchwil annibynnol mewn meysydd pwnc allweddol, yn ychwanegol at fodiwlau sy’n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r modiwlau gorfodol yn cynnwys: Maetheg Anifeiliaid, Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid, Cyflwyniad i Ymddygiad Anifeiliaid, Paratoi at weithio yn y Diwydiant Gofal Anifeiliaid a Sgiliau Astudio. 

Mae modiwlau ychwanegol yn cynnwys: Rheolaeth Rhywogaethau Egsotig Caeth a Chyflwyniad i Fioleg Forol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar gwblhau’r dystysgrif gall myfyrwyr llwyddiannus wneud cais i symud ymlaen i lefel pump y radd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid a graddau anrhydedd. Mae’r llwybrau cyflogaeth yn amrywiol gan gynnwys gwaith sŵ, anifeiliaid anwes, da byw a gwaith cadwraeth.

Dull asesu

Mae'r asesu'n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau ar-lein unigol ac yn cynnwys:  

Traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau ysgrifenedig, adroddiadau astudiaethau achos, ymchwil/arsylwadau ymarferol annibynnol, portffolios ymchwil, cyflwyniadau seminar.

Costau Ychwanegol

Mae’r ffioedd yr un peth â’r ffioedd addysg uwch safonol.  Fodd bynnag, mae’r cwrs hefyd yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru. 

Gofynion Mynediad

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n arddangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen.  Bydd angen cymhwyster lefel tri gyda gradd pas neu uwch ar fyfyrwyr sy'n cychwyn astudio ac, yn ddelfrydol, byddant wedi ymgymryd â rhywfaint o brofiad gwaith gydag anifeiliaid neu yn meddu ar brofiad cysylltiedig â'r diwydiant neu ardystiad cyfwerth. Mae angen i fyfyrwyr fod dros 18 oed yn ogystal.  

Bydd myfyrwyr hŷn (dros 21 oed) yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y rhoddir ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.  

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.