Skip to main content

Astudiaethau Ceffylau - Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 - Gofal Ceffylau

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y diwydiant ceffylau. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis.

Mae gan ddysgwyr ar y rhaglen hon yr opsiwn o ddau lwybr astudio.  Mae llwybr un yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau. Mae’r ail lwybr yn cynnwys adeiladu portffolio o dystiolaeth drwy ddiploma seiliedig ar waith City & Guilds.  

Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn 18 mis.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod)

Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser

Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)

Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.

Mae diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llwybr amgen diarholiad.

Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain sydd wedi’i lleoli ar ei gampws ym Mhibwrlwyd. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.

Cynnwys y Rhaglen

Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:

  • Maeth ceffylau
  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Rheoli Glaswelltir
  • Dylunio stablau
  • Arwain ceffyl dan oruchwyliaeth
  • Gwastrodi, plethu a gosod cyfarpar
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus i’r safon ofynnol, symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.

Dull asesu

Arholiadau Gwybodaeth a Gofal Ceffylau a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd BHS y gellir eu sefyll ar gampws Pibwrlwyd, Coleg Sir Gâr.

Bydd y dysgwr yn cael ei asesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad penodol.  Fodd bynnag, mae yna gymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau, er enghraifft:-

  • Prawf C y Pony Club
  • Tystysgrif Lefel 1 BTEC mewn Gofalu am Geffylau
  • Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
  • BHS Cam 1 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
  • NVQ Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau

Wedi gweithio’n flaenorol yn y diwydiant, neu’n gweithio ynddo ar hyn o bryd.

Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.