Mae myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl ar-lein hwn yn archwilio’r berthynas rhwng anifeiliaid a’r amgylchedd, gwyllt a chaeth, ac yn datblygu ymwybyddiaeth o sail wyddonol astudio ymddygiad anifeiliaid, ac i gysylltu hyn â'r ymatebion ymddygiadol i'w hamgylchedd.
Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am gysyniadau allweddol yr ymatebion a wneir gan anifeiliaid i’w hamgylchedd ac yn gallu trafod yr achosion a datblygiad y prif batrymau ymddygiad. Byddant yn gallu esbonio ymddygiad anifeiliaid mewn perthynas â goroesi, gwerth ffitrwydd, ac iechyd a lles.
Rhan Amser
Un semester
Ar-lein
Deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Mynediad i gyfleusterau ar-lein lefel uchel yng Ngholeg Sir Gâr a PCYDDS ar gyfer deunyddiau dysgu ac ymchwil.Bydd myfyrwyr yn cael cymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un gosodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Modiwl opsiynol yw’r modiwl hwn ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gwyddor Anifeiliaid Lefel 4 a gall gyfrannu at y dyfarniad terfynol neu gael ei astudio ar ei ben ei hun.
Byddai’r modiwl o fudd i unrhyw un sydd ar hyn o bryd/neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant anifeiliaid a gallai ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig.
Deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Portffolio o dasgau ac asesiadau o bob sesiwn a phortffolio arsylwi ymddygiad ac ymchwil ymarferol.
Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n arddangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o astudio’r modiwl. Bydd myfyrwyr sy’n cychwyn astudio yn cael eu hystyried os oes ganddynt gymhwyster Lefel 3 neu sydd wedi gweithio’n flaenorol ar safon lefel 3. Mae angen i fyfyrwyr fod dros 18 oed.
Bydd myfyrwyr hyn (dros 21 oed) yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Mae ffioedd yn berthnasol ac yn cyfateb i ffioedd presennol y coleg ar gyfer modiwl addysg uwch 20 credyd. Gellir dod o hyd i hyn ym mholisi ffioedd addysg uwch y coleg.
Does dim ffi costau ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol.