Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi cyfranogwyr i gael gwerthfawrogiad o egwyddorion ac arferion rhoi cymorth cyntaf i gŵn mewn ystod o sefyllfaoedd brys, ynghyd â dealltwriaeth o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau ymarferol i alluogi cyfranogwyr i ymarfer ystod o sgiliau gan gynnwys rhwymynnu a CPR.
Mae'r cwrs o fudd i unrhyw un sy'n berchen ar gŵn neu sy'n gweithio gyda nhw. Bydd y wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir fel rhan o'r cwrs hwn hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid busnesau megis twtwyr cŵn, cyndai, y rheiny sy’n gwarchod a cherdded cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn cael eu diogelu. Fel y cyfryw, gall y modiwl hwn ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig unrhyw weithiwr mewn busnes o’r fath.
Cipolwg
Rhan Amser
Un diwrnod, Dydd Sadwrn Mai 7fed Dyddiadau ychwanegol i ddilyn
Campws Pibwrlwyd
Mae costau cwrs yn £120 pp
Nodweddion y Rhaglen
Cyflwynir y cwrs gan Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN) ac mae'n cynnwys sesiynau theori ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol hefyd.
Cynnwys y Rhaglen
Rôl y perchennog cŵn wrth ddarparu cymorth cyntaf yn unol â Deddf Milfeddygon 1966
Sut i adnabod cyflyrau sy'n gofyn am gymorth cyntaf brys gan gynnwys trawiad gwres, clwyfau, toriadau, ffitiau a sioc
Mathau o waedlif (gwaedu) a dulliau rheoli
Gweithdrefnau dadebru gan gynnwys CPR a symudiad Heimlich
Cymorth cyntaf ar gyfer llosgiadau, sgaldiadau, trydaniad, gwenwyno, brathiadau a phigiadau
Sut i drafod a chludo ci sy'n ddifrifol wael neu wedi'i anafu mewn modd diogel
Pecynnau Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae'r cwrs o fudd i unrhyw un sy'n berchen ar gŵn neu sy’n gweithio gyda nhw.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN