Prentisiaeth Uwch mewn Astudiaethau Ceffylau Lefel 4 - Rheolaeth Iard
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
18 Mis
-
Campws Pibwrlwyd
Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.
Y llwybr dysgu ar gyfer y rhaglen hon yw rheolaeth iard. Ar hyn o bryd, mae’r llwybr hwn yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau.
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol. Dylai dysgwyr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaethau Uwch lefel pedwar o fewn 18 mis.
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Tystysgrif Lefel 4 BHSQ Rheolaeth Gofal Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 4 BHSQ mewn Egwyddorion Gofal a Rheolaeth Ceffylau
- Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Lefel 2)
- Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.
Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:
- Gosod a Gwerthuso tac arbenigol
- Ffisioleg Ceffylau
- Rheoli busnes ceffylau
- Maeth Ceffylau
- Asesu iechyd a chydffurfiad ceffylau
Mae gan ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth uwch lefel pedwar y cyfle i symud ymlaen yn y diwydiant neu i gyrsiau addysg uwch fel graddau sylfaen neu raddau mewn rheolaeth ceffylau, gwyddor ceffylau, astudiaethau ceffylau, hyfforddiant ac ymddygiad ceffylau.
Arholiad BHSQ cam 4 gofal a rheolaeth ceffylau y mae modd ei sefyll ar gampws Pibwrlwyd, Coleg Sir Gâr. Bydd dysgwyr ar y cwrs hwn yn cael eu hasesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
- BHS Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
- BHSQ Lefel 3 Gwastrawd
- Prawf AH y Pony Club
- Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
- Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Does dim ffi ychwanegol tra’n astudio ar y cwrs heblaw bydd gofyn i'r dysgwr brynu Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain cyn cymryd rhan mewn unrhyw arholiadau BHS. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu a’ch cyfarpar personol eich hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.