Côd UCAS: C22
Côd Cwrs: 73B8
Dilysir y Radd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Caiff ei chyflwyno ar Gampws Pibwrlwyd y coleg lle mae ystod o gyfleusterau anifeiliaid wedi eu lleoli.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd ag interniaeth orfodol mewn busnes sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid/yr amgylchedd neu geffylau.
Mae rhaglen y cwrs yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau dadansoddol beirniadol i lywio gweithwyr proffesiynol presennol a rhai’r dyfodol. Mae’n defnyddio ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd er mwyn hwyluso dealltwriaeth o wyddorau anifeiliaid ar draws ystod amrywiol o rywogaethau a meysydd astudio.
Yn ychwanegol i’r elfennau craidd hyn, mae'r rhaglen yn annog myfyrwyr i ymchwilio ac i drafod materion cyfoes sy’n ymwneud â rheolaeth anifeiliaid, moeseg, deddfwriaeth a newid amgylcheddol.
Mae israddedigion yn ymgymryd â modiwlau seiliedig ar waith ar Lefelau 4 a 5.
Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio 120 credyd ar Lefel 4 Blwyddyn 1 a Lefel 5 Blwyddyn 2.
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn ymgymryd ag 80 credyd y flwyddyn.
Mae gan y Coleg gyfleusterau anifeiliaid rhagorol, yn cynnwys arenâu ceffylau dan do ac awyr agored, acwaria, ystafell rhywogaethau egsotig, ystafell mamaliaid bychan ac adardai sy’n gartref i ystod amrywiol o rywogaethau er mwyn bodloni gofynion Cwricwlwm y Radd Sylfaen.
Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr fynediad i ystod o gyfleusterau bywyd gwyllt yn lleol: pwll bywyd gwyllt, safleoedd ar lan afon ac ar yr arfordir, perthi ffermdir a chynefinoedd coedwig er mwyn ymgymryd â’u hastudiaethau.
Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n trosglwyddo’n rhwydd i fyd gwaith. Gall llwybrau cyflogaeth gynnwys: Gofalwyr Swau, Cynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid, Rheolwyr Adwerthu Anifeiliaid Anwes, Rheolwyr Cadwraeth, Technegwyr Anifeiliaid, Maethegydd Anifeiliaid, Bridwyr Anifeiliaid, Rheolaeth Tyddyn, Rheolaeth Forol, Gweithwyr Achub Anifeiliaid, Gweithwyr Ymchwil/ Labordy, Swyddogion Lles DEFRA / Llywodraeth Leol, Rheolwyr Cyndai a Chathdai, Gweithwyr Elusennol, Addysgu.
Mae’r cwrs yn caniatáu dilyniant i’r cwrs BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid (ar Lefel 6) a cheisiadau i’n rhaglen BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol, yn ogystal â rhaglenni anrhydedd eraill a gyflwynir mewn sefydliadau eraill.
Gall myfyrwyr llawn amser ddewis o ddetholiad o fodiwlau ar Lefel 4 Blwyddyn 1 a Lefel 5 Blwyddyn 2
Lefel 4
Lefel 5
Caiff pob modiwl ei asesu’n unigol. Defnyddia’r rhaglen ystod o ddulliau asesu fel bod yr holl fyfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddangos eu cryfderau ac er mwyn eu galluogi i hybu eu sgiliau allweddol graddedig. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys arholiadau, adroddiadau ysgrifenedig, prosiectau ymchwil, asesiadau ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.
Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sy'n arddangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen.
Bydd disgwyl i ddysgwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 16 pwynt UCAS. Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hyn nad ydynt o bosibl yn bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn eu rhinwedd eu hunain mewn cyfweliad ar sail eu profiad, asesiad cyfweliad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sydd efallai'n berthnasol i'r diwydiant.
Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Diploma Technegol Uwch Lefel 3 a’r Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau.
Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma