Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs Lefel 1 llawn amser ac mae'n gweithredu fel cyflwyniad i'r Diwydiannau Gofal Anifeiliaid. Asesir y cwrs trwy sesiynau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau arholiad a osodir yn allanol.
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol i unrhyw un sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiannau Gofal Anifeiliaid. Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu i’r Diploma Lefel 2 Gofal Anifeiliaid. Mae cyfleoedd gwaith yn cynnwys cynorthwywyr gofal anifeiliaid mewn siopau anifeiliaid anwes, cyndai a chathdai preswyl ac achub.
Asesir ar ffurf asesiadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau brawf amlddewis ar-lein.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons a’u dillad dal dŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.