Mae'r Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol Seiliedig ar Waith wedi ei gynllunio ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn gweithle sy'n bractis hyfforddi cymeradwy. Rhaid i bob practis gael eu cymeradwyo gan y coleg a rhaid i Brentisiaid fod yn gweithio gyda Nyrs Filfeddygol Gofrestredig neu Filfeddyg (Hyfforddwr Clinigol) trwy gydol y rhaglen.
Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis. Dylai dysgwyr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus mae myfyrwyr yn gymwys i ymuno â'r gofrestr o Nyrsys Milfeddygol. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc).
Dilyniant o fewn swydd - Diploma Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch.
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:-
Gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau ac arholiadau Clinigol Ymarferol.
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.