Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y Diwydiant Ceffylau. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis. Mae gan y Prentis y dewis o gael ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r Ymgynghorwr Hyfforddi a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig. Bydd y dysgwr hefyd yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus i'r safon ofynnol symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:
Arholiadau'r BHS mewn Gwybodaeth a Gofal Ceffylau a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd y mae modd eu sefyll yn Uned Geffylau Coleg Sir Gâr ym Mhibwrlwyd.
Bydd y dysgwr yn cael ei asesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau yn y gwaith.
Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Ceffylau; fodd bynnag, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn, er enghraifft:
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'n ofynnol eich bod yn aelod o Gymdeithas Ceffylau Prydain.