Mae'r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 hon mewn Gofal Ceffylau yn gyflwyniad i reolaeth ceffylau a stablau ar gyfer y rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y Diwydiant Ceffylau. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau'r dysgwr ac mae'n darparu gwybodaeth helaeth yn ymwneud â cheffylau a'r diwydiant ceffylau. Bydd myfyrwyr yn treulio wythnos yn y dosbarth bob yn ail ag wythnos ar iard gystadlu'r coleg, sydd hefyd yn ganolfan arholi Cymdeithas Geffylau Prydain. Mae gan yr iard amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi'n dda, a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant mewn dressage a neidio ceffylau. Caiff myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gynhelir gan y coleg ac i dderbyn hyfforddiant oddi wrth hyfforddwyr ac arholwyr Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS). Mae'r cwrs yn cynnwys uned brofiad gwaith orfodol, sy'n golygu 150 o oriau o brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn mewn canolfan geffylau addas. Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.
Yn ogystal bydd y dysgwr yn cael y cyfle i gymryd arholiadau Cam Un BHS a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd, pan fydd yn cyrraedd y safon ofynnol.
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus ar lefel teilyngdod neu uwch symud ymlaen i'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu i swyddi. Ceir galw cynyddol am bobl â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith styd a rasio. Caiff arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain eu cydnabod gan y diwydiant ar hyd a lled y byd.
Unedau Craidd:
Unedau Opsiynol:
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.
Arholiad theori diwedd y flwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Mae arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain yn seiliedig ar waith ymarferol ac ar theori. Gellir ymgymryd â'r adran gwybodaeth a gofal ceffylau ynghyd â'r adran farchogaeth yn Uned Geffylau Campws Pibwrlwyd y coleg.
Cymhwyster Lefel 1 neu 3 TGAU (yn cynnwys o leiaf un TGAU (A* - C) mewn Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.