Mae'r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid wedi'i hanelu at ddysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i yrfa yn y diwydiant gofal anifeiliaid. Mae'r llwybr hwn, sy’n defnyddio cyfuniad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol, yn darparu llwybr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant gofal anifeiliaid.
Bydd sgiliau ymarferol yn amrywio o drin a ffrwyno anifeiliaid i lanhau eu llety. Ochr yn ochr â choleg, ymgymerir â phrofiad gwaith o fewn y cymhwyster hwn er mwyn i ddysgwyr ennill profiad o ddiwydiannau ar dir, sy'n amrywio o ffermydd i bractisiau milfeddygol.
Bydd dysgwyr sy'n cwblhau Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn gallu mynd ymhellach yn eu gyrfaoedd trwy ymgymryd â rolau megis twtwyr cwn, cynorthwy-ydd siop anifeiliaid anwes, yn cyflawni ystod o ddyletswyddau gan gynnwys glanhau a chynnal a chadw amrywiaeth o lety anifeiliaid.
Yn ystod y cymhwyster Lefel 2, byddwch yn gweithio'n agos gyda'ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a gyda thiwtoriaid cwrs yn y coleg.
Disgwylir i chi fynychu’r coleg ar 4 diwrnod yr wythnos am sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol. Mae'r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.
Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn cynnwys: -
Mae dilyniant o'r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Gall llwybrau cyflogaeth eraill ddeillio o'ch lleoliad profiad gwaith neu Ddiwydiannau ar dir eraill.
Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol: -
Gorfodol:
Modiwlau Opsiynol:
Dewis o un o’r opsiwn canlynol: -
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid. Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:
Asesir unedau yn ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid y coleg, trwy ystod o arsylwadau a phrofion ar-lein i ategu agwedd theori’r cwrs. Cynhelir yr asesiadau ymarferol ar ystod o anifeiliaid gan gynnwys mamaliaid bach a chwn, gyda'r opsiwn o dda byw, ceffylau neu anifeiliaid.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.