Therapi Harddwch Lefel 3
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
1 flwyddyn
-
Campws y Graig
Cynlluniwyd y cymhwyster galwedigaethol lefel tri hwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau a thechnegau harddwch a enillwyd ar lefel dau.
Cewch eich cefnogi i feithrin eich hyder a’ch creadigrwydd wrth weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon go iawn yn ogystal â dysgu sut i roi cyngor ar driniaethau a chynhyrchion harddwch.
Mae’r cwrs blwyddyn llawn amser hwn yn gymhwyster lefel uchel a fydd yn ehangu ar eich sgiliau harddwch presennol ac yn rhoi’r sgiliau harddwch ymarferol uwch i chi a ddarperir ar gyfer dilyniant gyrfaol pellach yn y diwydiant harddwch.
Mae’r cwrs dwys hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol a chewch eich asesu trwy gwblhau profion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad allanol, a fydd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach.
Bydd canolbwyntio ar ofal cwsmer rhagorol a chyfathrebu da yn eich helpu i ddatblygu ar gyfer gyrfa mewn harddwch, gyda’n tîm arbenigol yn eich cefnogi i wella neu ddatblygu eich sgiliau i’ch cynorthwyo i ddringo’r ysgol yn y busnes harddwch neu ddiwydiannau cysylltiedig.
Mae gennym salon gweithredol sydd ar agor i’r cyhoedd, a fydd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn eich galluogi i ennill dealltwriaeth ddyfnach o weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Mae rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan y myfyrwyr, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau Cenedlaethol, ac os yn llwyddiannus, symud ymlaen i gystadlaethau Rhyngwladol.
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol therapi harddwch ac fe'i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU fel un sy'n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch uwch.
Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol ac opsiynol a gyflwynir dros flwyddyn.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Triniaethau trydanol i'r corff
- Triniaethau tylino’r corff
- Triniaethau therapi â cherrig
- Monitro gweithdrefnau er mwyn rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
- Darparu triniaethau trydanol i’r wyneb
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch y cyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach ac i ddatblygu eich hyder.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon, sba a gwaith symudol.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r cwrs hwn efallai yr hoffech wneud cais am weithio ar longau gwyliau, yn cynnal triniaethau harddwch ochr yn ochr â theithio'r byd. Mae yna hefyd gyfleoedd cyffrous eraill i weithio mewn amrywiol salonau a chadwyni sba ledled y byd mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Dubai a Bermuda.
Fel arall, efallai yr hoffech symud ymlaen i gwrs proffesiynol mewn rheolaeth salon, neu hyd yn oed radd anrhydedd BA, er mwyn ennill hyfforddiant arbenigol mewn meysydd fel micropigmentiad lled-barhaol, microlafnu, dermablaenio, microbigo, piliau, liposugno laser ac anfewnwthiol a llawer mwy. Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu a’i drafod mewn cyfweliad.
Bydd angen cymhwyster lefel dau arnoch mewn pwnc perthnasol yn ogystal ag agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.
O leiaf pump TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau. Yn ychwanegol, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn.
Mae’n ofynnol i ddysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol sy’n ymwneud â’ch cwrs.
Cyrsiau Cysylltiedig
Disgrifiad o'r Rhaglen
Cynlluniwyd y cymhwyster galwedigaethol lefel tri hwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau a thechnegau harddwch a enillwyd ar lefel dau.
Cewch eich cefnogi i feithrin eich hyder a’ch creadigrwydd wrth weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon go iawn yn ogystal â dysgu sut i roi cyngor ar driniaethau a chynhyrchion harddwch.
Mae’r cwrs blwyddyn llawn amser hwn yn gymhwyster lefel uchel a fydd yn ehangu ar eich sgiliau harddwch presennol ac yn rhoi’r sgiliau harddwch ymarferol uwch i chi a ddarperir ar gyfer dilyniant gyrfaol pellach yn y diwydiant harddwch.
Mae’r cwrs dwys hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy gwblhau profion sgiliau ymarferol, ac aseiniadau ysgrifenedig, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad allanol, a fydd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach.
Bydd canolbwyntio ar ofal cwsmer rhagorol a chyfathrebu da yn eich helpu i ddatblygu ar gyfer gyrfa mewn harddwch, gyda’n tîm arbenigol yn eich cefnogi i wella neu ddatblygu eich sgiliau i’ch cynorthwyo i ddringo’r ysgol yn y busnes harddwch neu ddiwydiannau cysylltiedig.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae gennym salon gweithredol sydd ar agor i’r cyhoedd, a fydd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn eich galluogi i ennill dealltwriaeth ehangach o weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Mae rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan y myfyrwyr, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau Cenedlaethol, ac os yn llwyddiannus, symud ymlaen i gystadlaethau Rhyngwladol.
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol therapi harddwch ac fe'i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU fel un sy'n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch uwch.
Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol ac opsiynol a gyflwynir dros flwyddyn.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Triniaethau trydanol i'r corff
- Triniaethau tylino’r corff
- Triniaethau therapi â cherrig
- Monitro gweithdrefnau er mwyn rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
- Darparu triniaethau trydanol i’r wyneb
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach ac i ddatblygu eich hyder.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon, sba a gwaith symudol.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r cwrs hwn efallai yr hoffech wneud cais am weithio ar llongau gwyliau, yn cynnal triniaethau harddwch ochr yn ochr â theithio'r byd. Mae yna hefyd gyfleoedd cyffrous eraill i weithio mewn amryw o salonau a chadwyni sba ledled y byd mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Dubai a Bermuda.
Fel arall, efallai yr hoffech symud ymlaen i gwrs proffesiynol mewn rheoli salon, neu hyd yn oed radd anrhydedd BA, i ennill hyfforddiant arbenigol mewn meysydd fel micropigmentiad lled-barhaol, microlafnu, dermablaenio, microbigo, piliau, liposugno laser ac anfewnwthiol a llawer mwy. Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Asesu'r Rhaglen
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
Gofynion y Rhaglen
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu a’i drafod mewn cyfweliad.
Bydd angen cymhyster lefel dau arnoch mewn pwnc perthnasol yn ogystal ag agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.
O leiaf pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau. Ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform.Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn.
Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant harddwch, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.