Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn rhagflas cyffrous, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant gwallt.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi masnachol y coleg byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaenol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn eich caniatáu i ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa fel trinydd gwallt ac mae’r cymhwyster yn rhoi mynediad cadarn i ddeall yr hyn sy'n gysylltiedig â’r sector gwallt.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r coleg yn rhedeg salon masnachol sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, gan eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn byddwch yn cwblhau cymhwyster gwasanaeth cwsmer Cymraeg ychwanegol er mwyn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Trwy astudio’r cwrs hwn, cewch y cyfle i fod yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau sy’n cynnwys teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sydd â’r potensial i symud ymlaen i gystadlaethau rhyngwladol.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cwrs achrededig hwn yn cynnwys chwe uned a astudiwyd dros flwyddyn, sy'n ymdrin â phynciau fel:
Paratoi ar gyfer gwasanaethau gwallt a chynnal ardaloedd gwaith
Chwythsychu gwallt
Siampŵo a chyflyru gwallt
Cynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo gwallt
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster trin gwallt, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach ac i ddatblygu eich hyder a’ch rhagolygon gyrfa.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau a gwaith yn y pen draw.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Cefnogir dilyniant i gyrsiau lefel dau a lefel tri ynghyd â rhagolygon gyrfa sy'n cynnwys salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a'r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth yn ogystal â lleoliadau cartref neu symudol.
Asesu'r Rhaglen
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Arholiad ymarferol
Asesiadau parhaus
Portffolio o dystiolaeth
Asesiadau ysgrifenedig
Gofynion y Rhaglen
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad a thrwy brawf sgiliau ymarferol fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.
O leiaf dau TGAU graddau A* i G mewn Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg. Bydd mathemateg a gwyddoniaeth o fantais.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs a bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Fel rhan o’r cwrs, bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform.Caiff y wybodaeth hon ei hesbonio cyn eich dyddiad cychwyn.
Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.