Cynlluniwyd y cymhwyster galwedigaethol lefel tri hwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau a thechnegau harddwch a enillwyd ar lefel dau.
Cewch eich cefnogi i feithrin eich hyder a’ch creadigrwydd wrth weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon go iawn yn ogystal â dysgu sut i roi cyngor ar driniaethau a chynhyrchion harddwch.
Mae’r cwrs blwyddyn llawn amser hwn yn gymhwyster lefel uchel a fydd yn ehangu ar eich sgiliau harddwch presennol ac yn rhoi’r sgiliau harddwch ymarferol uwch i chi a ddarperir ar gyfer dilyniant gyrfaol pellach yn y diwydiant harddwch.
Mae’r cwrs dwys hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy gwblhau profion sgiliau ymarferol, ac aseiniadau ysgrifenedig, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad allanol, a fydd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach.
Bydd canolbwyntio ar ofal cwsmer rhagorol a chyfathrebu da yn eich helpu i ddatblygu ar gyfer gyrfa mewn harddwch, gyda’n tîm arbenigol yn eich cefnogi i wella neu ddatblygu eich sgiliau i’ch cynorthwyo i ddringo’r ysgol yn y busnes harddwch neu ddiwydiannau cysylltiedig.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae gennym salon gweithredol sydd ar agor i’r cyhoedd, a fydd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn eich galluogi i ennill dealltwriaeth ehangach o weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Mae rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan y myfyrwyr, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau Cenedlaethol, ac os yn llwyddiannus, symud ymlaen i gystadlaethau Rhyngwladol.
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol therapi harddwch ac fe'i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU fel un sy'n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch uwch.
Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol ac opsiynol a gyflwynir dros flwyddyn.
Mae’r unedau’n cynnwys:
Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon
Gweithio mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â harddwch
Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch
Triniaethau trydanol i'r corff
Triniaethau tylino’r corff
Triniaethau therapi â cherrig
Triniaethau trydanol i'r wyneb
Diflewio trydanol
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach ac i ddatblygu eich hyder.
Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon, sba a gwaith symudol.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r cwrs hwn efallai yr hoffech wneud cais am weithio ar llongau gwyliau, yn cynnal triniaethau harddwch ochr yn ochr â theithio'r byd. Mae yna hefyd gyfleoedd cyffrous eraill i weithio mewn amryw o salonau a chadwyni sba ledled y byd mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Dubai a Bermuda.
Fel arall, efallai yr hoffech symud ymlaen i gwrs proffesiynol mewn rheoli salon, neu hyd yn oed radd anrhydedd BA, i ennill hyfforddiant arbenigol mewn meysydd fel micropigmentiad lled-barhaol, microlafnu, dermablaenio, microbigo, piliau, liposugno laser ac anfewnwthiol a llawer mwy. Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Asesu'r Rhaglen
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Arholiad ymarferol
Asesiadau parhaus
Portffolio o dystiolaeth
Asesiadau ysgrifenedig
Gofynion y Rhaglen
Pump TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg, neu ddiploma galwedigaethol lefel dau mewn pwnc perthnasol.
Costau Ychwanegol
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau. Ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn.
Mae’n ofynnol i ddysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol sy’n ymwneud â’ch cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.