Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Diploma rhan-amser Lefel 4 mewn Arferion Rheoli a Thechnegau Uwch

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r diploma lefel pedwar rhan-amser hwn yn rhoi llwybr dilyniant ar gyfer gweithwyr proffesiynol trin gwallt a harddwch profiadol a chymwys sy'n gweithio heb oruchwyliaeth, o bosibl mewn rôl oruchwylio neu reoli, ac sydd â lefel uchel o wybodaeth a sgiliau perthnasol.


Nodweddion y Rhaglen



Mae’r tîm trin gwallt yn ffodus fod ganddynt gysylltiadau cryf gydag arbenigwyr yn y diwydiant yn lleol a chenedlaethol a chewch eich addysgu gan ein staff profiadol yn y diwydiant. 

Mae gennym siaradwyr gwadd o’r diwydiant sydd yn rhoi cyfleoedd cyfoethogi i fyfyrwyr drwy seminarau gweithdy. 

Byddwch yn astudio unedau gorfodol megis rheoli salon, cysylltiadau cyhoeddus ac arbenigeddau gwallt a chroen y pen.

Cyflwynir y cwrs dros bedair awr yr wythnos dros ddwy flynedd academaidd. 


Dilyniant a Chyflogaeth



Yn dibynnu ar y llwybr dilyniant rydych chi wedi penderfynu ei ddilyn, mae yna unedau amrywiol ar gyfer pob llwybr a fydd yn eich cefnogi yn eich rôl oruchwylio neu reoli.

Gall y cwrs hefyd eich arwain at:

  • Sefydlu busnes cymwys 
  • Statws gradd cymwys gyda mwy o astudio 
  • Ymarferydd uwch  
  • Dyfarniad aseswr lefel tri 
  • Tystysgrif lefel pump mewn rheoli salon.

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau a chewch gipolwg ar ragolygon gyrfa yn y diwydiant, a gaiff ei ennill trwy deithiau a digwyddiadau.


Cynnwys y Rhaglen



Mae cynnwys y cymhwyster yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

  • Rheolaeth o ansawdd ar gyfer gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch
  • Rheoli'r gwaith o greu casgliad o steiliau gwallt 
  • Rheoli salon
  • Gwasanaethau arbenigol i wallt a chroen y pen

Asesu'r Rhaglen



Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig

Gofynion y Rhaglen



Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad, fodd bynnag rydym angen:      

  • Lefel tri NVQ/VRQ mewn trin gwallt / therapi harddwch wedi’i gwblhau’n llwyddiannus 
  • Pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg a mathemateg. 
  • Mae angen i ymgeiswyr posibl fod yn ymwybodol bod presenoldeb a phrydlondeb rhagorol yn hanfodol.

Costau Ychwanegol



Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £364.

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, efallai bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.