Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: W000

Mae'r rhaglen radd hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gradd bwrpasol eu hunain, gan ddewis cyfuniad o fodiwlau a ddewiswyd o ddwy o'n graddau arbenigol sy'n targedu eu doniau a'u diddordebau penodol eu hunain. Er enghraifft, Cerflunio a Dylunio 3D Digidol, Ffasiwn a Thecstilau, Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth.

Wrth reswm, gall fod yn anodd i fyfyrwyr ddewis gradd os oes ganddynt gryfderau artistig, diddordebau a galluoedd amrywiol, a gall dewis un radd arbenigol olygu eu bod yn ildio un diddordeb er mwyn dilyn un arall. Gall y syniad felly y gallant gyfuno eu doniau dan ymbarél gradd Amlddisgyblaethol apelio’n fawr.

Fodd bynnag, nid yw hi’n radd i ymgymryd â hi heb ystyried hynny’n ofalus. Rhaid i’r myfyriwr Amlddisgyblaethol fod yn dda wrth reoli amser a bod yn drefnus iawn. Dylai fod yn barod i gymdeithasu a rhyngweithio gydag amrywiaeth o grwpiau myfyrwyr gan y bydd ei amserlen bersonol yn croesi i mewn i wahanol raglenni arbenigol.  Mae’r rhyngweithio hwn rhwng dwy ddisgyblaeth wahanol yn datblygu cyfleoedd ar gyfer arloesi, mae’n galluogi myfyrwyr i weithio ar draws cyd-destunau celf a dylunio ac mae’n arwain at ymarfer creadigol amrywiol, cyffrous ac amlochrog.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  3 blynedd yn llawn amser; gellir astudio yn rhan-amser. 

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei naws 'deuluol', rydym yn cynnig polisi drws agored lle caiff myfyrwyr eu hannog i drafod modiwlau arfaethedig gyda thiwtoriaid profiadol cyn ffurfioli eu rhaglen astudio. Mae meintiau'r dosbarthiadau yn fach ac mae'r cyswllt â thiwtoriaid heb ei ail. Bydd gennych weithfan unigol a mynediad i stiwdios a gweithdai penodol sydd yn gysylltiedig â'r adrannau yr ydych yn bwriadu astudio ar eu traws. Gweler y Disgrifydd a Nodweddion Rhaglen sy'n benodol ar gyfer eich dwy adran radd arbenigol ddewisol am ragor o wybodaeth.

Mae'r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gan roi pwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a dialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel eich bod yn barod i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a'u mapio. Mae cyfleoedd mynych i gymryd rhan mewn arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau, cystadlaethau a phrosiectau byw (yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir) yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posibl. Mae'r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae'r myfyrwyr yn mynychu gweithdai yn ystod eu blwyddyn gyntaf lle maent yn dysgu sgiliau trwy arbrofi mewn amgylchedd addysgu hamddenol a chynhwysol.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor. Ymgymerir â gweithdai yn y ddwy raglen radd arbenigol y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Caiff hyn ei ddylanwadu gan feysydd arbenigol y ddwy raglen radd a ddewisir. Artist neu ddylunydd llawrydd gyda'r potensial ar gyfer ymarfer cyfryngau cymysg, entrepreneur, addysgwr, rheoli dyluniadau, artist cymunedol, rheoli digwyddiadau, therapydd celf, gweinyddwr celfyddydau, curadur arddangosfeydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD) ac ati.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.

Gweithdrefnau dewis

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22 chôd y cwrs yw W000. Bydd y ceisiadau'n cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/CSOAMultidisc/

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/multidis_csoa/

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.