Rhaglen radd ag adnoddau da sy’n cynnwys corff amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Tanategir y rhain gan gysylltiadau diwydiannol cryf sy’n darparu ymarfer diwydiannol hynod berthnasol i chi, gan weithio gyda brandiau fel: All Saints, River Island, Howies, Topshop, Burberry a Givenchy.
Yn ogystal, cynigiwn lefel uchel o arbenigedd tiwtoriaid mewn dylunio, torri patrymau a llunio.
Mae’r cwrs yn aelod-goleg o’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig nodedig sy’n rhoi mynediad i’n myfyrwyr i brosiectau uchel eu parch yn y diwydiant, sgyrsiau, cystadlaethau ac interniaethau.
Mae maint dosbarthiadau yn fach sy'n caniatáu lefel uchel o gyswllt gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.
Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn caniatáu i fyfyrwyr greu corff o waith annibynnol, personol ac unigryw, gyda chefnogaeth gan staff wrth greu casgliad terfynol. Wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant, mae staff yn gweithio'n agos gyda chi i greu portffolio terfynol o waith i'w arddangos i weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi arddangos eich gwaith yn Wythnos Ffasiwn y Graddedigion, Llundain ochr yn ochr â graddedigion ffasiwn cenedlaethol a rhyngwladol.
Ein nod yw gwella unigoliaeth, creadigrwydd, arloesedd a dawn pob myfyriwr mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar i fod yn barod ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.