Côd UCAS: C22
Côd Cwrs: W640
Mae’r rhaglen BA (Anrhydedd) Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, wedi ennill ei phlwyf. Fe’i cynlluniwyd i annog creadigrwydd a datblygu sgiliau ffotograffig yn seiliedig ar ddiddordebau unigol, tra’n defnyddio dulliau technegol a chysyniadol eang sy’n adlewyrchu datblygiadau a thueddiadau ymarfer ffotograffig cyfoes. Gan gyfuno technolegau newydd gydag arferion gweithio traddodiadol (digidol a ffotograffau arian), sy’n cael eu cefnogi gan raglen theori integredig, mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i weithio’n hyderus a phroffesiynol tra’n datblygu gyrfa mewn ffotograffiaeth.
Cefnogir dulliau myfyrwyr unigol gan ddarlithwyr; y mae eu hymarferion eu hunain yn cael eu llywio gan ystod eang o brofiadau gan gynnwys ffotograffaeth ddogfennol, golygyddol, ffasiwn, masnachol, ffotograffiaeth celfyddyd gain, cyhoeddi a chreu cynnwys. Mae ein hysgol yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i fyfyrwyr archwilio eu hopsiynau a datblygu eu steil unigol a photensial. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Yn allweddol i lwyddiant ein dysgwyr, rydym yn gweithio’n agos gyda’n myfyrwyr i ddatblygu eu meddwl beirniadol ac entrepreneuraidd, sy’n hanfodol ar gyfer cael gwaith yn y diwydiant ffotograffig. Mae’r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn gadael gyda phortffolio proffesiynol eang, sy’n arddangos hunaniaeth bersonol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy, gan wella cyfleoedd a chyflogadwyedd. Mae graddedigion diweddar wedi cael eu cydnabod mewn nifer o wobrau proffil uchel gan gynnwys The Taylor Wessing Award, Rankin, Bafta Cymru, Printspace Trajectory, Cymdeithas y Ffotograffwyr a Sefydliad Ffotograffiaeth y Byd; gyda chomisiynau’n cael eu darparu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru / National Portrait Gallery / Y Senedd / The British Council / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Ffotogallery, ymysg llawer o lwyddiannau eraill.