Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: W232

Mae’r rhaglen hon yn unigryw yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i archwilio gwehyddu, gwau a phrosesau gorffennu cyfryngau cymysg. Ffurfia lluniadu a dylunio digidol sail ar gyfer datblygu. Mae'r dull sy'n seiliedig ar sgiliau yn rhoi gwybodaeth a sylfaen arbrofol y gall myfyrwyr ddatblygu ohonynt naill ai dull cyfrwng cymysg neu ddewis arbenigo. Sicrha’r cwricwlwm bod gan fyfyrwyr y cyfle i brofi ystod o gyfleoedd gyrfa trwy friffiau wedi’u gosod mewn amrywiaeth o gyd-destunau’r farchnad: ffabrigau ffasiwn, dyluniwr-gwneuthurwr/crefft, ategolion, tecstilau ar gyfer y tu mewn a chelf tecstilau

Mae’r cwrs yn ddeinamig, yn heriol ac yn greadigol, yn cael ei redeg gan diwtoriaid sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes. Ein nod yw bod ein myfyrwyr yn graddio gyda chyrff o waith rhagorol a fydd yn arwain at swyddi gwerth chweil, hunangyflogaeth neu astudiaeth academaidd uwch.   Mae dosbarthiadau bach yn sicrhau mynediad digynsail i gyfarpar arbenigol a thiwtoriaid.

Mae’r cwrs yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu portffolio eang sy’n arddangos eu hunaniaeth bersonol. Byddant yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiannau creadigol: mae gan lawer o gyn-fyfyrwyr yrfaoedd sefydledig yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn hyfforddi ac yn meithrin sgiliau ymarferol gyda thrylwyredd academaidd, sy’n arwain at arddangosfa broffesiynol a phortffolio o waith.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  3 blynedd yn llawn amser, gellir astudio yn rhan-amser

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Mae hon yn rhaglen sydd ag adnoddau da iawn gyda chyfleusterau gweithdy sy'n cynnwys: gwyddiau llaw traddodiadol (ar gael i bob myfyriwr), gwyddiau a yrrir gan gyfrifiadur, cudynnu matiau, peiriannau gwau domestig a diwydiannol, labordy llifynnau, torri â laser, weldio â laser ac asio uwchsonig; ochr yn ochr â chyfarpar printio, addurno a phwytho safonol.  Defnyddir ystod eang o feddalwedd dylunio masnachol ar lwyfannau Mac a chyfrifiadur personol.  Cynigiwn hefyd lefel uchel o arbenigedd tiwtor mewn dylunio dillad wedi’u gwau a llunio cynhyrchion ar gyfer y rheiny sydd â’u bryd ar droi eu tecstilau yn gynhyrchion terfynol wedi'u gwireddu'n llawn.

Mae prosiectau yn y flwyddyn astudio gyntaf a’r ail yn rhychwantu canlyniadau dylunio mewnol, ffasiwn a chelf gymhwysol. Mae cystadleuaeth genedlaethol a rhyngwladol a briffiau prosiect byw yn rhan hanfodol o’r cwrs gan roi profiad proffesiynol ac entrepreneuraidd go iawn, yn ogystal â’r cyfle i ennill gwobrau, cyfleoedd arddangos a lleoliadau gwaith.  Mae’r astudio yn y flwyddyn olaf yn gwbl annibynnol gyda sesiynau tiwtorial wythnosol, sy’n galluogi myfyrwyr i greu corff personol o waith sy'n arddangos unigoliaeth, arloesedd a dawn.  Mae'r cwrs yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes ganddo 'arddull fewnol':  caiff pob myfyriwr ei drin fel unigolyn a’i annog i greu gwaith sy’n adlewyrchu ei ddiddordebau a’i ddyheadau unigryw.  Mae gan fyfyrwyr fannau gwaith pwrpasol mewn stiwdio olau ac awyrog sydd â’r holl gyfarpar.  Mae maint dosbarthiadau yn fach sy'n caniatáu lefel uchel o ryngweithio gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.

Anelwn at helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn o fewn amgylchedd gwaith cefnogol, cyfeillgar, meithriniol a chreadigol.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Dylunydd/artist tecstilau, gwaith arddangosfa gelf neu osod, dylunio - llawrydd neu fewnol, dylunydd/gwneuthurwr, gweithiwr celf cymunedol, curadur arddangosfeydd, athro/darlithydd, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD).

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.

Gweithdrefnau dewis

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22 a chôd y cwrs yw W232. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/ColegsirgarTextiles/

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/textiles_csoa/

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.